Mae’n bleser gennym eich hysbysu bod Alys Roberts wedi’i phenodi’n Ddirprwy Swyddog Gweithredol Sirol newydd ar gyfer Ynys Môn. Bydd Alys hefyd yn gweithio fel Ymgynghorydd Amaeth-Amgylcheddol UAC. Dymunwn bob lwc iddi yn ei rôl newydd!
Rwy’n ferch ffarm o ardal Henllan, Dinbych sy’n ardal wledig a Chymreig. Rydym yn cadw gwartheg bîff a defaid ar y fferm adref, ac wrth fy modd yn helpu allan ar bob cyfle posib. Mae gennyf ddiadell o ddefaid Bryniau Ceri (Kerry Hill) ers blynyddoedd erbyn hyn, ac rwy’n mwynhau mynd a nhw i sioeau, gan gynnwys y Sioe Frenhinol.
Yn 2021, graddiais mewn Daearyddiaeth BSc ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac rwy’n gobeithio gallu gwneud defnydd o agweddau amgylcheddol fy ngradd yn y swydd newydd, yn enwedig o ystyried y newidiadau sy’n wynebu’r diwydiant amaeth.
Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau Ynys Môn, swyddogion a staff yr Undeb yn fy rôl newydd fel Dirprwy Swyddog Gweithredol Sirol a hefyd Ymgynghorydd Amaeth-Amgylcheddol. Os hoffai aelodau drafod y grantiau sydd ar gael ac opsiynau cynlluniau amgylcheddol eraill, byddwn yn falch iawn o glywed ganddynt.
Ebost:
Rhif ffon: 07706336020