Sefydliad DPJ yn cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl am ddim

Mae Sefydliad DPJ wedi trefnu sesiynau Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl newydd am ddim, i’w cyflenwi ar-lein trwy gydol mis Tachwedd. Mae’r hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn gan Gronfa Ymateb i Coronafeirws Cymru: Iechyd Meddwl, fel rhan o raglen sy’n anelu at helpu sefydliadau’r Sector Gwirfoddol a Chymunedol i barhau i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig.

Mae’r hyfforddiant ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio/byw yn y sector amaethyddol neu’n gweithio’n uniongyrchol â ffermwyr yng Nghymru. Mi fydd yn apelio at ffermwyr, partneriaid ffermwyr, a’r rhai sy’n dod i gysylltiad â ffermwyr, megis milfeddygon, cynrychiolwyr cwmnïau bwyd anifeiliaid, gyrwyr tanceri, gwerthwyr, ac arolygwyr lles anifeiliaid.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

  • Beth yw Iechyd Meddwl?
  • Pam y mae iechyd meddwl mor bwysig ym myd amaeth
  • Sut i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael, gan gynnwys gorbryder ac iselder
  • Ymwybyddiaeth o hunanladdiad gan gynnwys cynorthwyo teuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad
  • Sut i gynnal sgyrsiau am les meddyliol a chyfeirio pobl tuag at gymorth
  • Sut i reoli eich lles meddyliol eich hun.

Bydd y tair sesiwn awr a hanner yn cael eu cyflenwi ar Zoom a gellir archebu drwy Ticket Tailor yma: https://buytickets.at/thedpjfoundation

Dyddiad

Amserau’r Sesiwn

Dydd Iau 5ed Tachwedd

10.15am -1.30pm

Dydd Llun 9fed Tachwedd

12.30pm - 4pm

Dydd Mawrth a Dydd Mercher 24ain a 25ain Tachwedd

6pm -7.40pm – y ddwy sesiwn.  Mae angen mynychu’r ddwy sesiwn i gwblhau’r cwrs.