Mae’r brodyr Issa, sef y ddau filiwnydd o Swydd Gaerhirfryn sy’n berchen y grŵp gorsafoedd petrol European Garages (EG) a’r cwmni ecwiti preifat TDR Capital, wedi prynu’r prif gyfran, sef gwerth £6.8 biliwn, o randdaliadau ASDA, un o fanwerthwyr pennaf y DU.
Cafodd y cynnig gwreiddiol yn 2019 bod ASDA yn uno â Sainsbury’s ei daflu o’r neilltu gan reolydd cystadlu’r DU oherwydd y rheolau cystadlu, a’r posibilrwydd y gallai prisiau godi ac ansawdd y cynnyrch ddirywio.
Mae ffigurau Kantar Worldpanel ar gyfer y 12 wythnos sy’n diweddu ar 4ydd Hydref 2020 yn dangos bod ASDA â chyfran o 14.4% o farchnad nwyddau’r DU, tu ôl i Tesco (26.9%) a Sainsbury’s (14.9%). Er gwaetha’r heriau economaidd dwys sy’n wynebu busnesau a defnyddwyr, a’r posibilrwydd o hyd o gael Brexit heb fargen, mae’r perchnogion newydd wedi ymrwymo i gadw prisiau’n isel i ddefnyddwyr.
Serch hynny, bydd dros £1 biliwn yn cael ei fuddsoddi yng nghadwyn gyflenwi’r archfarchnad dros y tair blynedd nesaf, gan gynnwys ymrwymiad i sicrhau bod 100% o’r cynnyrch llaeth, tatws a chig eidion ffres yn dod o Brydain, gan olygu cynnydd ‘sylweddol’ yn y galw i gynhyrchwyr cig eidion y DU.