Yn ddiweddar, lansiodd Sefydliad DPJ, gyda chymorth prop Cymru, y ffermwr Wyn Jones, her newydd, yn cyfuno gweithgaredd corfforol ag iechyd meddwl yng ngefn gwlad.
Mae Her Llwybr Arfordir Cymru’n agored i unigolion a thimau (o hyd at bedwar) i redeg neu gerdded Llwybr Arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd – cyfanswm o 870 o filltiroedd – o fewn tri mis. Bydd yr her yn rhedeg o 26ain Ebrill hyd 8fed Gorffennaf, sef beth fyddai wedi bod yn noswyl Sioe Amaethyddol Frenhinol 2021.
Sefydliad DPJ yw’r brif elusen iechyd meddwl sy’n gweithio gyda’r gymuned amaethyddol yng Nghymru. Wedi’i sefydlu yng Ngorffennaf 2016, yn dilyn hunanladdiad Daniel Picton Jones, mae Sefydliad DPJ yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl o fewn cymunedau gwledig, ac yn darparu cymorth pan fydd ei angen fwyaf.
Mae llinell ffôn gyfrinachol 24 awr Sefydliad DPJ ‘Rhannu’r Baich’ (0800 587 4262) a’r llinell testun (07860 048 799) yn darparu galwyr â mynediad at wirfoddolwyr hyfforddedig y Samariaid, a fydd yn gwrando heb farnu ac yn cynnig help. Trwy alw ‘Rhannu’r Baich’, gall galwyr hefyd gael mynediad at gwnselwyr cymwysedig, yn rhad ac am ddim, o fewn wythnos o’u galwad i’r gwasanaeth.
Yn dilyn yr her #RHEDEG1000 hynod lwyddiannus a gynhaliwyd yn gynharach eleni, pan lwyddodd 567 o bobl yng Nghymru i godi cyfanswm o dros £45,000 ar gyfer elusennau iechyd meddwl gwledig y DU, bydd yr her hon yn helpu pobl i gwrdd â’r Pum Ffordd o Wella Lles a osodwyd gan y GIG:
- Cysylltu â phobl eraill
- Gweithgaredd corfforol
- Dysgu sgiliau newydd
- Rhoi i eraill
- Sylwi ar yr hyn sydd o’ch cwmpas (ymwybyddiaeth ofalgar)
I gael mwy o wybodaeth am Sefydliad DPJ, ewch i: www.thedpjfoundation.co.uk
I ymuno â’r her, ewch i: https://thedpjfoundation.wlve.co.uk/