Gyda chymorth Undeb Amaethwyr Cymru, llwyddodd Cyfrif Mawr Adar Tir Amaethyddol yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adar Hela a Bywyd Gwyllt (GWCT) eleni i ddenu mwy o gyfranogwyr, a hynny dros ardal ehangach nag erioed, ers i’r fenter ddechrau yn 2014.
Er gwaetha’r tywydd garw yn ystod y cyfnod cyfrif rhwng y 5ed a’r 21ain o Chwefror 2021, cynyddodd nifer y cyfranogwyr yng Nghymru o 37% o’i gymharu â’r llynedd, sef cyfanswm o 115 o ffermwyr, a gofnododd 107 o rywogaethau ar draws ardal o dros 34,000 o aceri.
Mae’r Cyfrif Mawr yn gofyn i reolwyr tir dreulio 30 munud yn cofnodi’r gwahanol rywogaethau o adar a welant ar eu tir. Mae’n darparu ffermwyr a thirfeddianwyr â dull syml o asesu faint o wahanol adar sydd ar eu fferm bob blwyddyn, ochr yn ochr â gwaith cadwraeth hirdymor. Mae hefyd yn tynnu sylw at y gwaith positif a wneir gan ffermwyr a thirfeddianwyr i geisio gwyrdroi’r gostyngiad yn nifer yr adar ar dir ffermio, ac mae’n dangos ymrwymiad hirdymor ffermwyr a thirfeddianwyr yng Nghymru i gadwraeth, ochr yn ochr â defnydd cynhyrchiol o’r tir.
Cofnodwyd cyfanswm o 22 o rywogaethau o’r Rhestr Coch o Adar sydd o Bryder Cadwraethol yn ystod y cyfrif eleni. Y pum math mwyaf toreithiog o adar ar draws Cymru oedd y sguthan, y drudwy, yr asgell fraith, y sogiar, a’r gornchwiglen, gyda chyfanswm o 9,200 yn cael eu cyfrif, sef 36% o’r cyfanswm adar a gofnodwyd.
Maint cyfartalog y ffermydd a gymerodd ran oedd 299 acer, gyda 58% o’r rheiny’n rhan o gynllun amaeth-amgylcheddol o ryw fath.