Tra bod FUW yn dal i drafod y ffordd orau ymlaen o ran taclo’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) a gyflwynwyd yn ddiweddar, cafodd cam cyntaf y newidiadau ei gyflwyno ar 1af Ebrill 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i ffermwyr a thirfeddianwyr i gydymffurfio â phob un o’r rheoliadau hyn, gan gynnwys y niferoedd enfawr o gyfrifiadau fydd yn ofynnol o 1af Ionawr 2023, fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd.
Mae Cyswllt Ffermio hefyd wedi cyhoeddi’r ddwy gyntaf o gyfres o fideos yn esbonio’r rheoliadau a gyflwynwyd ar 1af Ebrill:
Mae FUW am atgoffa aelodau bod 10% o ostyngiad ar gael oddi ar ffioedd ymgynghori Gwasanaethau Amgylcheddol Gwledig Kebek, a gellir cysylltu â nhw drwy
Bydd FUW yn parhau i roi gwybod i aelodau am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â newidiadau neu arweiniad pellach ar y rheoliadau hyn.