i) SNP yn ymrwymo i gadw at bolisïau ffermio’r UE
Yn ei Maniffesto, mae Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) wedi ymrwymo i gadw at bolisïau tebyg i’r rhai sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r newidiadau i Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE, gan gynnwys y cynigion Fferm i’r Fforc presennol – yn unol â’i hawydd o hyd i ail-ymuno â’r UE.
Er y byddai hanner yr holl daliadau fferm yn canolbwyntio ar ganlyniadau amgylcheddol o 2025, mi fyddai Llywodraeth SNP yn parhau i ddarparu cyfran o daliadau fferm uniongyrchol petai’r Ddeddf Marchnad Fewnol yn caniatáu - sef dull sy’n cyferbynnu’n llwyr â’r sefyllfa yng Nghymru a Lloegr, lle mae’r llywodraethau wedi addunedu i ddod â thaliadau cymorth uniongyrchol i ben yn raddol, gyda’r taliadau yn Lloegr i gael eu cwtogi o eleni ymlaen. Mae hyn yn tynnu sylw at un o’r nifer o bryderon difrifol mae FUW wedi’u codi ers refferendwm Brexit, oherwydd dan y cynlluniau presennol mi fyddai ffermwyr Cymru’n derbyn taliadau am nwyddau cyhoeddus yn unig, gan olygu eu bod yn wynebu cystadleuaeth annheg o du’r rhai yn yr Alban a’r UE oedd yn derbyn cymorth uniongyrchol.
ii) Ffermwyr cig eidion yr Alban yn dal i dderbyn taliadau y pen
Yn ddiweddar, cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban y byddai ei ffermwyr cig eidion yn parhau i dderbyn taliad y pen yn 2021 fel rhan o Gynllum Cymorth Gwartheg Sugno Eidion yr Alban.
Bydd anifeiliaid a enir ar ddaliadau yn yr Alban a fagir o leiaf 75% ar gyfer cig eidion, ac a gedwir am dros 30 diwrnod, yn gymwys i dderbyn £98.92 (tir mawr) neu £144.27 (ynys) y pen, a ddaw o’r gyllideb o £40 miliwn, mewn ymdrech i gynnal niferoedd y buchesi cig eidion.