Bydd Prifysgol Aberystwyth yn derbyn ei myfyrwyr israddedig cyntaf i’r Ysgol Filfeddygol newydd ym Medi 2021.
Gyda chymorth gan y Coleg Milfeddygol Brenhinol, mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi adnoddau enfawr er mwyn cyfrannu at y sectorau milfeddygol a bwyd amaeth yng Nghymru.
Hoffai Prifysgol Aberystwyth gael eich barn ar sut y gall yr Ysgol newydd gwrdd ag anghenion y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru, megis:
- Pa hyfforddiant ôl-raddedig ddylid ei gynnig?
- Beth am DPP, hyfforddiant clinigol neu gynadleddau?
- A ddylid hefyd hyfforddi nyrsys milfeddygol, ffisiotherapyddion a/neu reolwyr?
I ddysgu mwy am yr Ysgol Filfeddygol, ewch i https://www.aber.ac.uk/cy/vet-sci/ neu ebostiwch Darrel Abernethy, Pennaeth a Chadeirydd Ysgol Filfeddygol Aberystwyth ar