Mae Cynllun Hyrddod Mynydd Hybu Cig Cymru yn chwilio am ddiedyll mynydd masnachol yng Nghymru i ymuno â’r cynllun gwella geneteg, sy’n anelu at gymharu perfformiad dau hwrdd ar grŵp dethol o ddefaid mynydd sy’n cael eu monitro.
Mae’r cynllun yn caniatáu i ffermwyr gymharu dau hwrdd drwy fonitro perfformiad yr ŵyn a’r mamogiaid, all ganiatáu iddyn nhw ddewis yr eneteg orau ar gyfer eu diadell yn y dyfodol.
Bydd y ffermwyr a’u diedyll yn cael cymorth gan y tîm Cynllun Hyrddod Mynydd ar adegau perthnasol, a byddant yn cael hyfforddiant i’w cynorthwyo gyda’r gwaith cofnodi.
Ceir mwy o wybodaeth am y Cynllun Hyrddod Mynydd a’r ffurflen mynegi diddordeb yma: https://meatpromotion.wales/cy/industry-projects/hill-ram-project
Mae’r ffenestr mynegi diddordeb bresennol yn cau ar 21ain Mai 2021.