i) Cadeirydd newydd Hybu Cig Cymru yn gosod blaenoriaethau
Mae Mrs Catherine Smith, a etholwyd yn Gadeirydd Hybu Cig Cymru (HCC) yn ddiweddar, wedi gosod blaenoriaethau’r Bwrdd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd diwygio’r symiau ardoll i’w talu i fwrdd ardollau’r wlad lle cafodd yr anifail ei fagu yn hytrach na lle cafodd ei ladd, fel rhan o Fil Amaethyddiaeth y DU, yn rhan hanfodol o waith HCC dros y flwyddyn nesaf, er y bydd gwaith ar y cyd rhwng cyrff ardollau’r DU yn parhau.
Mi fydd yn caniatáu i’r gwaith gwych barhau o ran ymgysylltu â defnyddwyr ac adeiladu brand i gynyddu gwerthiant cig coch, a hyrwyddo rhinweddau amgylcheddol cynhyrchu cig oen a chig eidion yng Nghymru, cyn uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow yn nes ymlaen eleni.
ii) Prosiect Arwain Vet Cymru’n arwain y ffordd ar ddefnydd cyfrifol o wrthfiotigau
Mae prosiect Arwain Vet Cymru, a lansiwyd yn Nhachwedd 2019 i hyfforddi a chefnogi rhwydwaith cenedlaethol o Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol ar draws Cymru, i hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotigau mewn da byw, wedi dod yn lasbrint ar gyfer menter DU debyg, sef Farm Vet Champions.
Cefnogir y prosiect dwy flynedd gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ariannu drwy’r rhaglen Datblygu Gwledig, i weithio tuag at Gynllun Gweithredu Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd (2019-2024). Hyd yn hyn, mae 30 o Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol sy’n ymgymryd â gwaith fferm wedi ymuno â’r prosiect, gyda 37 ohonynt eisoes wedi creu cynlluniau gweithredu gwrthfiotigau unigol.
iii) Prif Weithredwr newydd ar gyfer Gwlân Prydain
Mae Bwrdd Gwlân Prydain wedi penodi eu Prif Weithredwr Dros Dro, Andrew Hogley yn Brif Weithredwr parhaol yn ddiweddar.
Camodd Mr Hogley i’r swydd Prif Weithredwr Dros Dro yn Nhachwedd 2020 ar ôl bod yn Gyfarwyddwr Gwerthiant Gwlân Gwasanaethau Cynhyrchwyr Gwlân Prydain. Bydd Gwlân Prydain yn parhau i wynebu nifer o heriau wrth iddynt adfer o effeithiau’r pandemig, pan welwyd cwymp sylweddol yn y farchnad wlân fyd-eang, gyda ffermwyr yn derbyn 17 ceiniog y cilogram ar y mwyaf am eu gwlân.