Mae arolwg o gysylltedd digidol wedi tynnu sylw ar fwlch enfawr rhwng ardaloedd trefol a gwledig o ran mynediad i fand eang, ei sefydlogrwydd, a signal ffonau symudol.
Dangosodd yr arolwg, a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched Cymru, y Gymdeiths Tir a Busnes Cefn Gwlad (CLA), Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, fod 50% o’r ymatebwyr o ardaloedd gwledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd oedd ar gael iddynt yn gyflym a dibynadwy.
Yn wir, dywedodd llai na 50% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig fod ganddynt fand eang safonol, a dim ond 36% oedd â band eang cyflym iawn, gyda 66% yn nodi eu bod nhw neu eu haelwyd wedi’u heffeithio gan fand eang gwael. O’i gymharu, dywedodd 18% o’u cymheiriaid fod ganddynt fynediad at fand eang safonol, gyda 67% â band eang cyflym iawn.
Tra bod 80% o’r ymatebwyr yn defnyddio’u ffonau symudol i gael mynediad at y rhyngrwyd, dim ond 68% o’r rhai gyda ffôn clyfar oedd â mynediad at rwydwaith 4G neu 5G. Gan ddisgrifio’r signal ffôn symudol yn eu cartrefi, dywedodd 57% o’r rhai mewn ardaloedd gwledig bod eu signal yn ‘annibynadwy’ a dywedodd 49% ohonynt fod eu signal yn ‘annibynadwy’ yn yr awyr agored.
Roedd yr ymateb i’r arolwg yn glir bod heriau gweithio o gartref, ac yn arbennig o ran plant yn cyrchu addysg, yn arbennig o anodd a rhwystredig yn ystod pandemig Covid-19 oherwydd cysylltedd gwael.
Mae canfyddiadau’r arolwg felly yn achos pryder mawr ac mae wedi dod yn amlwg, serch yr addewidion lu a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, nad yw’r rhaniad digidol rhwng ardaloedd trefol a gwledig wedi’i ddatrys.
Mae’n amlwg bod cysylltedd digidol gwael yn effeithio’n uniongyrchol ar gymunedau gwledig Cymru. Mae’n hanfodol bod y Llywodaeth Cymru nesaf yn buddsoddi ymhellach yn y seilwaith gwledig, i alluogi teuluoedd cefn gwlad, busnesau fferm ac eraill i fanteisio ar gyfleoedd cysylltedd digidol a pheidio â chael eu gadael ar ôl, gan waethygu’r rhaniad digidol rhwng ardaloedd trefol a gwledig. Mae band eang a signal ffonau symudol yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yng Nghymru a dylid ei gydnabod felly.
Mae’r sefydliadau wedi ysgrifennu ar y cyd at Brif Weinidog Cymru a Gweinidogion perthnasol y Cabinet yn amlinellu canfyddiadau’r arolwg, ac maent hefyd wedi gofyn am gyfarfod i drafod gweledigaeth a rhaglen mapio, i ddarparu pawb â chysylltedd cyflym a dibynadwy.
Mae’r datganiad llawn i’r wasg gan y sefydliadau i’w weld yma: https://www.fuw.org.uk/cy/newyddion/14540-arolwg-yn-dangos-rhaniad-rhwng-trefi-a-chefn-gwlad