Arolwg yn dangos rhaniad rhwng trefi a chefn gwlad

Mae arolwg ar gysylltedd digidol wedi dangos y bwlch enfawr rhwng ardaloedd trefol a rhai gwledig o ran mynediad i fand eang a’i sefydlogrwydd a derbyniad signalau ffonau symudol. 

Dangosodd yr arolwg, a gynhaliwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru, Cymdeithas y Tirfeddianwyr, Undeb Amaethwyr Cymru, NFU Cymru a CFfI Cymru, fod mwy na 50% o’r ymatebwyr o ardal wledig yn teimlo nad oedd y rhyngrwyd yr oedd ganddynt fynediad iddo yn gyflym ac yn ddibynadwy.

 

Yn wir, dywedodd llai na 50% o’r rhai oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig fod ganddynt fand eang safonol a dim ond 36% oedd â band eang cyflym iawn. Dywedodd 66% fod band eang gwael wedi effeithio arnynt neu ar eu haelwydydd, o gymharu â phobl mewn ardaloedd trefol lle dywedodd 18% fod ganddynt fynediad i fand eang safonol ac roedd 67% â band eang cyflym iawn.

Gan gynnig sylw ar sefyllfa band eang, dywedodd un ymatebydd bod ‘band eang yn methu dros dro yn rheolaidd a bod y methiannau hyn yn para oriau neu ddyddiau lawer yn rheolaidd. Mae’n annibynadwy ar gyfer cyfarfodydd fideo ar-lein ac ar ei orau 11-12 mb rydyn ni’n eu cael. Nid yw hyn yn ddigon i gynnal 3 o bobl sy’n gweithio ar lein ond yn aml mae’n llawer llai ac allwn ni ddim dibynnu arno.’

Dywedodd un arall, ‘Mae ffibr ar gael mewn rhai pentrefi dwi’n meddwl, ond mae gan unrhyw un sy’n byw y tu allan i’r rheiny grŵp bach iawn o gwmnïau sy’n fodlon darparu gwasanaeth. Mae ffibr a chysylltiad dibynadwy yn bwysig ar gyfer pob cartref er cynaliadwyedd economi Cymru.’

Er bod 80% o’r bobl a gymerodd ran yn defnyddio eu ffonau symudol i gyrchu’r rhyngrwyd, dim ond 68% o’r rhai â ffôn clyfar oedd â mynediad i rwydwaith symudol 4G neu 5G. Wrth ddisgrifio’r signal ffonau symudol yn eu tai, dywedodd 57% o’r bobl o ardal wledig fod eu signal yn ‘annibynadwy’ a nododd 49% o’r rhai o ardal wledig fod eu signal yn ‘annibynadwy’ yn yr awyr agored.

Dywedodd un ymatebydd, ‘Rydyn ni ar fferm ac nid yw ffonau symudol yn gweithio yn y tŷ. Naill ai mae’n rhaid inni fynd can llath i fyny llethr neu filltir allan ar y ffordd i gael cysylltiad.’

Tra dywedodd un arall, ‘Does gen i ddim signal ffôn, sy’n gwneud hi’n anodd i weithio gartref. Rydw i’n defnyddio galwadau WiFi, ond mae’r rhyngrwyd yn rhy annibynadwy i hynny lwyddo. Mae’n ei gwneud hi’n anodd i weithio o gartref a theimlaf nad wyf yn gwneud digon o gynnydd oherwydd y cyfyngiadau sydd ar yr hyn y gallaf ei wneud. Nid oes modd imi ymgymryd â’m llwyth gwaith arferol. Does dim signal ffôn symudol ac mae’n rhaid imi deithio 15 munud i’r un cyfeiriad, neu 25 munud i’r llall, cyn y gallaf wneud neu dderbyn galwad. Dyw’r signal ddim hyd yn oed yn 3G, felly does dim modd derbyn e-bost.’

Nododd ymatebwyr yr arolwg yn glir bod yr heriau o weithio o gartref a phlant yn cyrchu eu haddysg wedi bod yn arbennig o anodd a rhwystredig yn ystod y pandemig Covid-19 oherwydd cysylltedd gwael.  

Mewn cyd-ddatganiad, dywedodd y sefydliadau: “Mae’r amrywiaeth o wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael ar y rhyngrwyd yn unig wedi tyfu’n sylweddol yn ystod y degawd diwethaf. Bellach ystyrir mynediad i fand eang yn angenrheidiol gan y rhan fwyaf o fusnesau ac aelwydydd yn y DU. Daeth hyn yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig Covid-19 gan fod llawer wedi dibynnu ar fynediad i fand eang er mwyn cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, ac i weithio’n rhithiol o gartref.

“Mae canfyddiadau ein harolwg felly’n destun pryder gwirioneddol. Er i lywodraethau’r DU a Chymru wneud nifer o addewidion dros y blynyddoedd, mae’n amlwg nad aed i’r afael â’r rhaniad rhwng trefi a chefn gwlad.

“Mae’n amlwg bod cysylltedd digidol gwael yn cael effaith uniongyrchol ar ein cymunedau yng nghefn gwlad. Mae’n hanfodol i Lywodraeth nesaf Cymru fuddsoddi ymhellach mewn seilwaith yng nghefn gwlad er mwyn galluogi teuluoedd cefn gwlad, busnesau ffermio, ac eraill i fanteisio ar gyfleoedd cysylltedd digidol, heb gael eu gadael ar ôl, gan gynyddu’r rhaniad digidol rhwng trefi a chefn gwlad. Rhaid cydnabod bod band eang a signal ffôn symudol yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol yng Nghymru.”

Mae’r sefydliadau wedi ysgrifennu ar y cyd at y Prif Weinidog a Gweinidogion perthnasol y Cabinet yn amlinellu canfyddiadau’r arolwg. Maent hefyd wedi galw am gyfarfod i drafod gweledigaeth a map ffordd Llywodraeth Cymru i ddarparu pawb â mynediad at gysylltedd cyflym a dibynadwy.