Yn ystod dadl ddiweddar yn y Senedd, galwodd yr AS Ceidwadol Janet Finch-Saunders ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun difa moch daear yng Nghymru fel arf arall yn y frwydr yn erbyn TB.
Yn ôl canlyniadau cynlluniau difa moch daear dan ofal ffermwyr yn Lloegr, arweiniodd difa moch daear at ostyngiad o 66 y cant yn yr achosion o TB mewn rhannau o Swydd Gaerloyw, a 37 y cant yng Ngwlad yr Haf, ar ôl pedair blynedd.
Yn ei ymateb, gwrthododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, unrhyw ffurf ar ddifa moch daear i gael gwared â TB dan Lywodraeth Lafur, a beiodd symudiadau gwartheg fel y rheswm pennaf dros y cynnydd yn y nifer o achosion TB gwartheg mewn ardaloedd lle mae lefelau’r haint yn isel. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno profion croen twbercwlin cyn ac ar ôl symud gwartheg ac wedi cyflogi rhai o wyddonwyr mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Yr Athro Glyn Hewinson, i gynnal ymchwil ar frechu gwartheg.
Fel yr amlinellir ym Maniffesto Etholiadau Senedd Cymru 2021 FUW, gall brechu gwartheg, ar y cyd â phrawf DIVA defnyddiadwy, weithredu fel mesur ataliol a chwarae rhan hanfodol er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru, sef dileu TB gwartheg erbyn 2041, yn hytrach na’r dull ‘ymatebol’ presennol. Fodd bynnag, ni ellir ystyried hyn fel ateb syml oherwydd un dull yn unig ydyw o reoli TB.
Er bod yna welliannau ers 2009 o ran achosion newydd ymhlith buchesi, mae’r ystadegau’n dangos bod 10,258 o anifeiliaid wedi’u difa yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2021 yng Nghymru.
Mae FUW o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru roi polisi difa moch daear yn llefydd lle mae moch daear yn cario’r afiechyd ar waith ar y cyfle cyntaf er mwyn sicrhau bod fectorau TB mewn gwartheg a bywyd gwyllt yn cael eu taclo, a pharhau i gefnogi treialon a chyflwyno rhaglen brechu gwartheg, tra’n cydnabod mai dim ond rhan o’r ateb fyddai hynny tuag at gael gwared â TB gwartheg yng Nghymru.