Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi croesawu penderfyniad y Senedd i adolygu’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, sy’n cael eu cyflwyno fesul cam ar hyn o bryd ac sy’n debygol o osod rheoliadau llym a chostus ar bob fferm ledled Cymru.
Cafodd cynnig ar y cyd gan yr wrthbleidiau yn galw am bwyllgor Seneddol i gynnal adolygiad “brys” o’r rheoliadau newydd ei basio o 58 pleidlais i ddim ar 9fed Mehefin.
Mae’n dda gweld, yn dilyn trafodaeth rymus yn y Senedd, bod holl aelodau Senedd Cymru o blaid cynnal adolygiad o’r rheoliadau fel maent yn sefyll ar hyn o bryd.
Mae FUW a chyrff eraill o fewn y diwydiant wedi mynegi eu rhwystredigaeth a’u dicter dro ar ôl tro am y ffordd mae’r rheoliadau hyn wedi’u rhuthro drwy’r Senedd, ac wedi rhybuddio am y peryglon a ddaw yn sgil yr hyn sy’n cael eu gyflwyno fesul cam ar hyn o bryd.
Rhaid i’r adolygiad roi ystyriaeth i oblygiadau ariannol y rheoliadau hyn ar fusnesau fferm bach a chanolig a ffermwyr tenant, a dylid hefyd ystyried yr effeithau cymdeithasol a diwylliannol ar gymunedau gwledig.
Hefyd, mae’n hollbwysig bod asesiad effaith yn cael ei gynnal ar golli bioamrywiaeth petai’r cynigion costus hyn yn golygu bod llai o wartheg yn pori ar ucheldir yn y dyfodol.
Mae ffermwyr yng Nghymru’n awyddus iawn i warchod yr amgylchedd, a gobeithir y bydd y ffaith bod y Senedd wedi derbyn yr angen am adolygiad brys yn gyfle i gyflwyno rheoliadau sydd wedi’u targedu ar sail tystiolaeth, sy’n addas i Gymru, ac sy’n caniatáu i’r diwydiant weithio gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i daclo llygredd a gwarchod yr amgylchedd.