Arwyddodd y DU ac Awstralia gytundeb masnach mewn egwyddor ar 15fed Mehefin, ychydig ddiwrnodau ar ôl yr Uwchgynhadledd G7 yng Nghernyw, lle cwrddodd rhai o arweinwyr y byd i drafod yr adferiad ar ôl y pandemig.
Gwnaed hyn serch bod FUW wedi mynegi pryderon difrifol yn ystod cyfarfodydd mynych ag Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys gwahaniaethau o ran arbedion maint a chynhyrchedd, safonau lles anifeiliaid, a’r tebygolrwydd o gynnydd achlysurol yn yr mewnforion bwyd o Awstralia, o ystyried natur anwadal marchnadoedd nwyddau.
Os caiff y cytundeb ei arwyddo fel y mae ar hyn o bryd, mi fydd yna fynediad uniongyrchol i gwota di-dariff o 35,000 tunnell o gig eidion, yn codi mewn rhanddaliadau cyfartal i 110,000 tunnell ym mlwyddyn deg. Mi fydd yna fynediad uniongyrchol i gwota di-dariff o 25,000 tunnell o gig oen, yn codi mewn rhanddaliadau cyfartal i 75,000 tunnell ym mlwyddyn deg.
O ran cynnyrch llaeth, bydd y tariffau’n cael eu diddymu dros y pum mlynedd cyntaf. Mi fydd yna fynediad uniongyrchol i gwota di-dariff o 24,000 tunnell o gaws, yn codi mewn rhanddaliadau cyfartal i 48,000 tunnell ym mlwyddyn pump. Ar gyfer menyn, mi fydd yn 5,500 tunnell, yn codi i 11,500, a bydd cynnyrch llaeth ac eithrio caws yn 20,000 tunnell o’r diwrnod cyntaf.
Er bod Adran 1.6 (Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol) yn datgan “bydd gofyn i fewnforion gwrdd â’r un safonau yn y DU ac Awstralia o ran diogelwch bwyd a bioddiogelwch”, mae Adran 1.7 (Lles Anifeiliaid ac Ymwrthedd i Gyffuriau’n) datgan y bydd gan Awstralia a’r DU yr hawl “i sefydlu ei pholisïau a’i blaenoriaethau ei hun i warchod lles anifeiliaid”, sy’n awgrymu ein bod yn symud i ffwrdd o farchnad deg.
Gosodir darpariaethau yn eu lle ar gyfer cydweithredu i daclo ymwrthedd i gyffuriau, a gwneir sylwadau positif mewn perthynas â chydweithredu parhaus a mentrau lles anifeiliaid, ond “mewn meysydd sydd o ddiddordeb i’r naill a’r llall” yn unig.
Yn yr un modd mae Adran 4.2 (Yr Amgylchedd) yn rhoi’r hawl ”i’r naill wlad a’r llall i sefydlu ei lefelau diogelwch amgylcheddol domestig a’i blaenoriaethau ei hun mewn perthynas â’r amgylchedd.”
Mae’r cytundeb hwn, a fydd yn rhoi rhyddid llwyr rhag tariffau a chwotâu yn gosod y cynsail ar gyfer cytundebau masnachu gyda gwledydd eraill mawr rhyngwladol. Mae Gweinidog Masnach Seland Newydd, Damien O’Connor, wedi dweud y byddan nhw’n disgwyl i dariffau gael eu diddymu’n llwyr, gan gynnwys ar nwyddau amaethyddol, ac eto mae Prif Weithredwr Cymdeithas Diwydiant Cig Seland Newydd, Sirma Karapeeva, yn dweud y byddan nhw’n gobeithio am ganlyniad gwell na hynny hyd yn oed mewn cytundeb yn y dyfodol.
Er ei bod hi’n ymddangos bod cryn dipyn o ddryswch ymhlith Aelodau Seneddol am y llwybrau craffu a fydd ar gael drwy’r Comisiwn Masnach ac Amaeth a Phwyllgorau Seneddol amrywiol, cyn ac ar ôl ffurfio’r cytundeb terfynol, mae FUW wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU a’r Pwyllgor Materion Cymreig yn gofyn iddyn nhw wrthod unrhyw beth sy’n peryglu ffermydd teuluol, lles anifeiliaid, diogelwch a safonau bwyd, a’n hamgylchedd byd-eang.