Mae gwerth yr hawliad BPS ar gyfer 2021 yn £116.86, ac ymddengys ei fod felly tua 4% (£5.30) yn is na chyfanswm cyfun y gwerthoedd BPS a’r taliadau gwyrdd ar gyfer 2020, oedd yn £122.16.
Yn dilyn sicrwydd blaenorol y byddai cyllideb y BPS ar gyfer 2021 yn darparu’r un lefel o daliadau uniongyrchol i ffermwyr yn 2021 ag a ddarparwyd yn 2020, mi nath UAC gofyn i RPW egluro pam fod gwerth yr hawliad yn is na’r disgwyl.
“Cyn gwneud taliadau BPS 2021 byddwn yn ystyried yr holl hawliau a ddelir nad ydynt wedi'i hawlio, ynghyd â gwerth y Gronfa Genedlaethol sydd heb ei hawlio a byddwn yn cynyddu gwerth yr hawliau wedi’i actifadu. Yna bydd hawlwyr BPS 2021 yn gweld gwerth eu hawliau'n cynyddu a thaliad BPS yn unol â'r hyn a dderbyniwyd ar gyfer 2020."
Nid yw’r ffigurau hyn yn cynnwys y taliad wedi’i ailddosbarthu a delir ar 54 hectar cyntaf unrhyw hawliad.
Cafodd y mater o ymestyn cytundebau Glastir ei gynnwys mewn papur cynigion polisi a anfonwyd yn ddiweddar at y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, mewn perthynas â Chynllun Datblygu Gwledig Cymru a ariannir yn ddomestig.
Mae UAC wedi pwysleisio’r angen am benderfyniad brys am fod angen i ffermwyr gynllunio ymlaen llaw, ac i sicrhau bod unrhyw ymestyn cytundebau a ganiateir yn digwydd mewn da bryd.
Mae’r papur polisi hefyd yn cynnwys cynigion ar gyfer rowndiau cynlluniau grant eraill yn y dyfodol, gan gynnwys y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, y Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau, a Grantiau Bach Glastir.
Mae UAC hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn tynnu sylw at gostau cynyddol deunyddiau adeiladu, a’r effaith mae hynny’n ei gael ar gostau safonol a phrisiau penodol fel rhan o gytundebau Grant Busnes Fferm – Gorchuddio Iardiau, y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy, a Grantiau Bach Glastir.