i) Asiantaeth yr Amgylchedd yn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer tail organig yn Lloegr
Mewn ymdrech i roi mwy o amser i ffermwyr yn Lloegr i addasu i’r ‘Farming Rules for Water’ a gyflwynir yn 2022, mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cyhoeddi Datganiad o’r Sefyllfa Reoleiddiol (RPS) 252, sy’n gosod canllawiau llym ar gyfer gwasgaru tail organig.
Er y bydd ffermwyr yn cael gwasgaru tail organig tu hwnt i anghenion uniongyrchol y cnwd, ond nid tu hwnt i anghenion y cylchdro cnwd cyfan, bydd gofyn iddynt ddangos mai gwasgaru yw’r unig opsiwn gwaredu sydd ar gael.
O 1af Mawrth 2022, bydd yr eithriadau hyn yn dod i ben ac ni chaniateir gwasgaru tail os yw’n mynd tu hwnt i anghenion y cnwd, neu os yw’n creu perygl difrifol o lygru dŵr.
ii) Ffermwyr yn Lloegr yn amheus o’r Cynllun Creu Coetir newydd
Mae’r Cynllun Creu Coetir newydd yn Lloegr (EWCO) wedi derbyn tua £16 miliwn o gyllid i annog ffermwyr a rheolwyr tir i blannu mwy o goed a chwrdd â thargedau Llywodraeth y DU.
Fodd bynnag, yn ôl pôl piniwn a gynhaliwyd gan y Fforwm Ffermio byddai 59% o’r ymatebwyr yn amheus o unrhyw gynllun plannu coed gan y Llywodraeth. Ymddengys mai nod y cynllun yw creu planhigfeydd coedwigaeth mawr heb roi ystyriaeth i newidiadau yng ngwerth y tir, cyfyngiadau ar droi tir yn ôl yn laswelltir, neu fentrau plannu coed eraill megis agro-goedwigaeth.
iii) Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yn ennill statws Dynodiad Daearyddol (GI)
Cig Oen Morfa Heli y Gŵyr yw cynnyrch bwyd cyntaf y DU i ennill statws gwarchodedig drwy’r cynllun Dynodiad Daearyddol (GI) newydd, a gyflwynwyd ar ôl i gyfnod pontio Brexit ddod i ben.
Bydd cael cydnabyddiaeth fel cynnyrch Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO) yn caniatáu i gynhyrchwyr cig oen ar Benrhyn Gŵyr i arddangos a gwarchod arferion amaethyddol traddodiadol a nodweddion unigryw'r cig.
Erbyn hyn mae cyfanswm o 17 cynnyrch GI gwarchodedig yng Nghymru.