Mewn ymdrech i gynnig taliad premiwm i gynhyrchwyr gwlân y DU, mae Gwlân Prydain wedi lansio menter yn ddiweddar sy’n anelu at olrhain y gwlân o gât y fferm hyd at y cynnyrch terfynol.
Yn sgil cau marchnadoedd gwlân ar draws y byd oherwydd pandemig Covid-19, gadawyd Gwlân Prydain gyda thua 7 miliwn cilogram o stoc heb ei werthu, o gyfanswm cneifiad o 27 miliwn cilogram yn 2019/20. Roedd hyn yn golygu bod cynhyrchwyr yn derbyn tâl cyfartalog o 17 ceiniog y cilogram am gneifiad tymor 2019/20, tua 70% yn is a’r tâl a gafwyd yn 2019.
Er bod Gwlân Prydain wedi llwyddo i glirio pentwr stoc y llynedd a bod y prisiau felly wedi dechrau codi eto, ni ddisgwylir i brisiau ddychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig tan 2022.
Bydd y cynllun olrhain gwlân newydd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddeall y broses sy’n rhaid i wlân fynd trwyddi cyn cyrraedd y silffoedd, ond bydd hefyd yn cynhyrchu pris premiwm ar gyfer cynhyrchwyr cymwys, ac yn helpu i adfer prisiau gwlân yn dilyn pandemig Covid-19.
Rhagwelir y bydd dros hanner miliwn o gilogramau o wlân y gellir ei olrhain yn cael ei werthu yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, gan gynnwys i Devon Duvets a Harrison Spinks, a hynny o dri o ddepos mwyaf Gwlân Prydain, sef Bradford, Y Drenewydd a South Molton.