Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi pwysleisio pwysigrwydd cefnogi lladd-dai bach a chanolig mewn ymateb i ymgynghoriad rhanddeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gynigion cynnar ar gyfer model cyflenwi yn y dyfodol.
Mae’r ymgynghoriad yn gosod cynigion o ran sut y dylai model cyflenwi’r dyfodol symud i ffwrdd o’r dull safonedig presennol, a thuag at ffordd o weithio sydd wedi’i moderneiddio a’i thargedu i wella dulliau o gydymffurfio a dosbarthu adnoddau.
Roedd UAC o blaid y cynigion o ran presenoldeb wedi’i deilwra ar gyfer Gweithredwyr Busnes Bwyd gyda lefelau amrywiol o gydymffurfio, gwahanol reolau ar gyfer cyflenwyr marchnadoedd domestig a/neu farchnadoedd allforio, a chasglu data mwy cywir. Serch hynny, roedd pryder o hyd ynghylch sut y gallai newidiadau o’r fath effeithio ar ddiogelwch bwyd, a chynyddu costau i Weithredwyr Busnes Bwyd bach a chanolig.
Yn ôl adroddiad diweddar gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Les Anifeiliaid roedd yna 30,000 o ladd-dai yn y DU yn 1930, ond erbyn 2017 dim ond 249 oedd ar gael, ac roedd 56 o’r rheiny’n lladd-dai cig coch bach.
Hefyd, yn ôl arolwg o ladd-dai bach a lladd-dai lleol a gynhaliwyd gan National Craft Butchers ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban, roedd 59% yn disgwyl cau o fewn pum mlynedd os na fydd y rheoliadau ‘addas i bawb’ presennol yn cael eu hadolygu ar frys, ac os na fydd Llywodraethau’n cydnabod pwysigrwydd lladd-dai bach ac yn darparu’r buddsoddiad angenrheidiol i’w diogelu ar gyfer y dyfodol.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Amaethyddiaeth yn gosod cynigion i gwtogi cadwyni cyflenwi, gyda phwyslais newydd ar gynnyrch lleol a chadw gwerth y bwyd a gynhyrchwyd yng Nghymru, amcanion na ellir eu cyflenwi heb ddigon o ladd-dai bach a lleol.
Pwysleisiodd UAC pa mor hanfodol y bydd hi i gynnwys mesurau cymorth penodol fel rhan o fodel cyflenwi yn y dyfodol, a fydd yn lleihau costau lladd-dai llai o faint, ac yn sicrhau bod Cynhyrchwyr Busnes Bwyd bach a chanolig yn derbyn y cymorth priodol cyn cyflwyno’r newidiadau, megis buddsoddiad yn y seilwaith digidol.
Bydd UAC yn parhau i ymgysylltu â’r ASB wrth i’r model cyflenwi ar gyfer y dyfodol gael ei ddatblygu a’i roi ar waith.