Mae adroddiadau yn y cyfryngau dros yr wythnosau diwethaf wedi datgelu problemau mawr i gadwyni cyflenwi bwyd y DU, yn sgil prinder gyrwyr cerbydau HGV a phrinder CO2 ar gyfer difa anifeiliaid a phecynnu bwyd.
Mae’r prinder o oddeutu 100,000 o yrwyr cerbydau HGV wedi effeithio ar nifer o fanwerthwyr a safleoedd gwerthu bwyd mawr, gan gynnwys Iceland a McDonalds, ar ôl i thua chwarter y gyrwyr hyn ddychwelyd i’r UE oherwydd Brexit a Covid-19.
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi haeru ers amser maith y byddai problemau o’r fath yn codi o ganlyniad i’r rhwystrau a gododd rhwng y DU a’r UE yn sgil Brexit.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ers hynny y bydd yn cyflwyno pecyn o fesurau i helpu i daclo’r prinder gyrwyr cerbydau HGV, gan gynnwys fisâu dros dro i 5,000 o yrwyr tanceri tanwydd a chyflenwyr bwyd i weithio yn y DU yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, a phroses symlach i yrwyr newydd gael eu trwydded HGV.
Mi fydd y pecyn hefyd yn cynnwys fisâu ar gyfer 5,500 o weithwyr dofednod i weithio yn y DU am dri mis, i helpu i brosesu a chludo dofednod.
Mae’r DU hefyd wedi wynebu prinder CO₂ a ddefnyddir i ddifa da byw heb boen, a phecynnu cig ffres a chynnyrch bwyd arall i atal bacteria..
Mae CF Industries yn cynhyrchu tua 60% o ofynion CO₂ gradd bwyd y DU fel sgil-gynnyrch cynhyrchu gwrtaith, ond mae cynnydd o 250% ym mhris nwy yn golygu bod dau o’i safleoedd wedi cau ar fyr rybudd, gan arwain at ostyngiad yn y nifer o foch, dofednod, gwartheg a defaid sy’n cael eu difa.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi rhoi cymorth ariannol i CF Fertilisers i sicrhau cyflenwad parhaol o CO₂ ar gyfer y sector prosesu cig.
Mae’r ddwy broblem bresennol hyn yn dangos pa mor bwysig yw amaethyddiaeth i’r economi ehangach, gyda sgil-gynnyrch gwrtaith yn cael ei ddefnyddio i ddifa heb boen a phecynnu cig, ond hefyd pa mor bwysig yw cigyddion lleol yn nhermau diogelwch bwyd, o ystyried nad yw’r rhan fwyaf o gig a werthir ganddynt yn golygu defnyddio CO₂ i becynnu ar gyfer cerbydau HGV mawr.