Mae buchesi yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn rhan o dreialon ar ffermydd o’r prawf gwrthgyrff TB Gwartheg newydd, Enferplex.
Mae’r prawf wedi’i gynllunio i ganfod anifeiliaid heintiedig na chanfuwyd gan y prawf croen twbercwlin a’r prawf gwaed gama cymeradwy presennol.
Yn ôl yr adroddiadau mae’r canlyniadau cynnar yn bositif, gyda 2,500 o samplau’n dangos 23,4% o ganlyniadau Enferplex positif. Credir bod gan y prawf benodoldeb o rhwng 98.4 a 99.7% a sensitifrwydd o rhwng 89.4 a 94.5%, sy’n golygu y gall ganfod hyd at 94.5 o anifeiliaid a gadarnheir fel rhai heintiedig o fewn buches pan gânt eu profi 5-30 diwrnod ar ôl prawf croen.
Er bod y prawf Enferplex wedi’i gymeradwyo gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd i’w ddefnyddio fel prawf TB ar gyfer gwartheg, nid yw wedi’i gymeradwyo eto ar gyfer profion rheolaidd yn y DU.
Mae UAC yn parhau i gefnogi dull holistig sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i ddileu TB yng Nghymru, ond mae ‘na bryder y bydd cyflwyno prawf arall yn annog dull ‘adweithiol’ yn hytrach na symud tuag at ddull ‘ataliol’.
Hefyd, cadarnhaodd Defra’n ddiweddar y bydd difa moch daear yn cymryd lle mewn saith ardal newydd o Loegr, gyda’r nod o sicrhau gostyngiad o 70% yn y boblogaeth moch daear, yn unol â’r Treial Difa Moch Daear ar Hap, a gynhaliwyd yn Lloegr rhwng 1998 a 2005.
Daw hyn yn sgil y canlyniadau a gyhoeddwyd yn 2019, lle gwelwyd, yn dilyn pedair blynedd o ddifa moch daear, ostyngiad o 66% a 37% yn yr achosion newydd o TB gwartheg, y naill yn Swydd Gaerloyw, a’r llall yng Ngwlad yr Haf.
Hefyd, mae treialon ar droed ar gyfer brechlyn TB Gwartheg a all, o’i gyfuno â phrawf DIVA defnyddiadwy, weithredu fel mesur ataliol a chwarae rôl hanfodol o ran helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddileu TB erbyn 2041. Fodd bynnag, ni ellir ei ystyried fel ateb syml am mai un dull o reoli’n unig ydyw.
Gellir dweud yr un peth am rheloi TB mewn rhywogaethau bywyd gwyllt, felly rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y dylai rheolaeth o TB mewn bywyd gwyllt fod yn un arf ymhlith nifer ar gyfer taclo’r clefyd hwn yng Nghymru.