UAC yn trafod plannu coed a masnachu carbon gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) drafodaethau positif yn ddiweddar gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, gyda phlannu coed a busnesau o’r tu allan i Gymru’n prynu tir yng Nghymru at ddibenion gwrthbwyso carbon yn bynciau canolog.

Mae UAC wedi derbyn adroddiadau gan aelodau, yn wythnosol bron, am ffermydd cyfan neu ddarnau o dir yn cael eu prynu gan unigolion a busnesau o’r tu allan i Gymru ar gyfer plannu coed, er mwyn buddsoddi yn y farchnad garbon gynyddol, neu i wrthbwyso’u hallyriadau eu hunain, yn hytrach na cheisio lleihau eu hôl troed carbon yn y lle cyntaf.

Trafododd y Tîm Polisi Llywyddol bolisi’r Undeb ar fasnachu carbon, a chytunwyd ar hwnnw’n ddiweddarach mewn cyfarfod o Gyngor UAC sef:

‘Serch cydnabod y gallai credydau carbon ddod yn incwm pwysig i rai ffermydd yn y dyfodol, o ystyried:

  1. bod gwerthu credydau carbon o dir ffermio yng Nghymru’n bygwth tanseilio gallu ffermydd, amaethyddiaeth yng Nghymru neu Gymru gyfan rhag dod yn garbon niwtral
  2. y pryder bod mwy a mwy o dir ffermio yng Nghymru’n cael ei werthu i unigolion a chwmnïau o’r tu allan i Gymru, i greu carbon i’w werthu tu allan i Gymru, neu i wrthbwyso eu hôl troed eu hunain
  3. bod yna rai achosion o Lywodraeth Cymru’n ariannu cyrff ac unigolion o’r tu allan i Gymru i blannu ardaloedd o’r fath

dylai Llywodraeth Cymru a’r Senedd gymryd camau brys i daclo’r broblem hon drwy ryw fath o fecanwaith rheoli, ac er nad cwotâu carbon yw’r ffordd orau ymlaen o bosib, mae’n un o’r mesurau y dylid eu hystyried i osgoi effeithiau andwyol cynyddol i ffermydd teuluol yng Nghymru, cymunedau Cymru a Chymru gyfan.’


Mae’r dull o werthu carbon yn bygwth tanseilio gallu ffermydd, amaethyddiaeth yng Nghymru neu Gymru gyfan rhag dod yn garbon niwtral, os na chymerir camau brys gan Lywodraeth Cymru.

Serch hynny, roedd UAC yn croesawu’r cadarnhad gan y Gweinidog Julie James yn y cyfarfod bod Llywodraeth Cymru’n ymwybodol o hyn ac yn archwilio i’r mater, a’i bod yn rhannu nifer o bryderon UAC.

Datgelodd ymateb Llywodraeth Cymru i gwestiwn Seneddol gan lefarydd amaeth Plaid Cymru, Cefin Campbell, fod nifer yr ymgeiswyr gyda chyfeiriadau tu allan i Gymru wedi cynyddu o 3% i 8% rhwng ffenestr ymgeisio 8 (Tachwedd 2019) a ffenestr 10 (Tachwedd 2020) cynllun Creu Coetir Glastir, gan gadarnhau pryderon o’r fath.

Datgelwyd hefyd bod y cyfran o dir a dderbyniwyd ar gyfer grant Creu Coetir Glastir yn sgil ceisiadau o’r tu allan i Gymru wedi codi o 10% i 16% rhwng ffenestr 8 (Tachwedd 2019) a ffenestr 9 (Mawrth 2020).

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod yr arwynebedd tir a blannwyd â choed gan ymgeiswyr am grant Creu Coetir Glastir o’r tu allan i Gymru yn 96 hectar yn ystod y tymor plannu diwethaf, o’i gymharu â’r arwynebedd cyfartalog o 17 hectar a blannwyd gan ymgeiswyr â chyfeiriadau yng Nghymru.

Trafodwyd materion eraill gyda’r Gweinidog hefyd, megis sut i sicrhau bod y goeden iawn yn cael ei phlannu am y rheswm iawn yn y lle iawn, a’r argyfwng ail gartrefi.

Mae UAC yn edrych ymlaen at ddal ati i gynnal trafodaethau o’r fath gyda’r Gweinidog a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod polisïau ar blannu coed a masnachu carbon yn y dyfodol yn gweithio i amaethyddiaeth yng Nghymru a Chymru gyfan, ac i gyrraedd targedau sero net.