Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi annog Llywodraeth y DU i weithio o fewn protocol Gogledd Iwerddon, a rhoi ystyriaeth ofalus i fuddiannau’r consesiynau a gynigir gan yr Undeb Ewropeaidd – neu wynebu’r perygl o effeithiau andwyol difrifol ar fusnesau’r DU os bydd y cysylltiadau masnach rhwng y DU a’r UE yn chwalu.
Mewn cyfarfod o Dîm Polisi Llywyddol UAC ar 13eg Hydref, trafododd yr aelodau y problemau a achosir gan y protocol, cynigion yr UE i liniaru’r rhain o fewn telerau a gytunwyd ac a arwyddwyd gan y DU, a’r bygythiad i amaethyddiaeth yng Nghymru a busnesau’r DU os bydd y cysylltiadau masnach rhwng y DU a’r UE yn chwalu.
Daethpwyd i’r casgliad mai’r ffordd fwyaf pragmatig o symud ymlaen oedd bod y DU yn ystyried y gwelliannau sylweddol a gyflwynwyd gan yr UE mewn goleuni positif, ac na ddylid rhoi busnesau yng Nghymru a’r DU, sydd eisoes yn wynebu problemau mawr yn sgil prinder gweithwyr, mewn mwy o berygl am fod y DU am ail-drafod cytundeb rhyngwladol.
Mae ymdrechion gan y DU i ail-drafod y protocol a’i egwyddorion sylfaenol yn llwyr, mor fuan ar ôl cytuno arno, eisoes wedi dwyn anfri ar y DU ar y llwyfan rhyngwladol, ac wedi arwain, dros yr wythnosau diwethaf, at rybuddion llym gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden.
Mae’r protocol, a drafodwyd gan y DU a’r UE yn 2019 ac a gwblhawyd yn Rhagfyr 2020, wedi’i gynllunio i osgoi ôl-effeithiau difrifol creu ffin galed rhwng yr UE a’r DU ar Ynys Iwerddon, trwy gadw Gogledd Iwerddon ym Marchnad Sengl yr UE a rhoi ffin dollau DU-UE ar waith ym Môr Iwerddon.
Mae hyn yn golygu bod angen gwiriadau ar yr holl gynnyrch a allforir o Brydain i Ogledd Iwerddon, ac mae UAC yn llwyr gydnabod bod y rhain wedi achosi problemau di-rif i fusnesau yng Ngogledd Iwerddon sy’n mewnforio nwyddau o Brydain.
Ymatebodd yr UE i’r problemau a’r galwadau o du Llywodraeth y DU drwy gyhoeddi set o gynigion ar 13eg Hydref y mae’n honni allai leihau’r gwiriadau ar y ffin rhwng y DU a Gogledd Iwerddon gymaint ag 80 y cant, ac mae hefyd wedi cynnig newid rheoliadau UE sy’n berthnasol i bob un o’i 27 o Aelod-wladwriaethau i hwyluso’r cynigion.
Roedd aelodau’r Tîm Polisi Llywyddol yn bryderus iawn am y bygythiadau a’r rhethreg gynyddol o du Llywodraeth y DU cyn cyhoeddi cynigion yr UE, ac i ba raddau mae hyn yn bygwth chwalu’r berthynas fasnach rhwng y DU a’r UE.
Mae UAC yn dadlau bod hon yn berthynas y mae degau o filoedd o fusnesau yng Nghymru a’r DU yn dibynnu arni, gan gynnwys ffermydd a chynhyrchwyr bwyd.