Yn ddiweddar mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio canllaw ymarferol ar gyfer ffermwyr, i wneud ffermio da byw yng Nghymru hyd yn oed yn fwy cynaliadwy.
Mae’r ddogfen ‘Perffeithio’r Ffordd Gymreig’ yn amlinellu sut y gall ffermwyr leihau eu hôl troed carbon. Credir y gallai mesurau ar ffermydd, megis bridio anifeiliaid a rheoli glaswelltir leihau allyriadau sector defaid Cymru gymaint ag 20%, ac mi allai cynyddu maint y carbon sy’n cael ei ddal a’i stori mewn priddoedd, a chynhyrchu ynni adnewyddadwy gael fwy o effaith na hynny hyd yn oed.
Yn ôl ymchwil academaidd annibynnol, mae Cymru eisoes yn un o’r llefydd mwyaf cynaliadwy yn y byd i gynhyrchu cig coch, gyda’i ffermio llai dwys yn sgil digonedd o law a thyfiant glaswellt da.
Mae’r ddogfen yn anelu at helpu’r diwydiant i wella ymhellach a chyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fwrw’r targed sero net erbyn 2050, gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael y dewis o brynu’r cig oen a chig eidion mwyaf cynaliadwy posib.
Canolbwyntir i raddau helaeth ar reoli glaswelltir. Gall glaswelltir sy’n cael ei bori, sef y rhan helaethaf o dir amaethyddol Cymru, weithredu fel dalfa garbon. Bydd rheolaeth effeithiol o laswelltir yn sicrhau nid yn unig y maeth cywir ar gyfer gwartheg a defaid, ond mi fydd hefyd yn helpu i ddal a storio carbon o’r atmosffer.
Nid oes ‘un ateb syml’ o ran gwneud y mwyaf o botensial amaethyddiaeth Cymru i helpu i liniaru’r newid yn yr hinsawdd, ond gall amrywiaeth o fesurau wneud cyfraniad sylweddol at ein cynaliadwyedd.
Mae’r adroddiad ‘Perffeithio’r Ffordd Gymreig’ i’w weld yma: https://meatpromotion.wales/cy/industry-resources/environment