Cafodd cyfanswm o 21 o swyddogion gwledig o bob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru brofiad uniongyrchol hanfodol o ffermio’n ddiweddar, drwy fynychu cwrs ‘Ymwybyddiaeth ar Ffermydd’ yng Ngholeg Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin, y cwrs cyntaf o’i fath i’w gynnal yng Nghymru.
Wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru, roedd y diwrnod yn gyfle i swyddogion heddlu yng Nghymru i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fynychu ffermydd yn ystod eu gwaith o ddydd i ddydd gyda hyder a dealltwriaeth o ffermio, ac yn bwysicach, gyda dealltwriaeth o beryglon yr amgylchedd gwaith hwn.
Dechreuodd y diwrnod gyda sesiwn yn ymwneud â gwahanol fathau o ffermio yng Nghymru a’r problemau go iawn sy’n wynebu’r diwydiant, o effaith troseddau gwledig i reolau’r llywodraeth a thrwyddedau symud da byw.
Yna cafodd y swyddogion brofiad o ymwneud â da byw, drwy helpu i gasglu a chyfrif defaid, a hefyd i ddeall y peryglon sy’n gysylltiedig â gweithio â gwartheg, dan do ac yn yr awyr agored. Roedd gwahanol fathau o beiriannau fferm ar yr agenda hefyd, ynghyd ag iechyd a diogelwch, a sut i wneud cerbydau fferm yn ddiogel os oes angen gwneud hynny mewn argyfwng, gyda rhai swyddogion yn cael y cyfle i yrru tractorau a chael profiad uniongyrchol o hyd a lled eu gallu.