Mae’r cwtogi cymharol ar ddyraniad cyllid amaethyddiaeth a datblygu gwledig Cymru, a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant diweddaraf, yn torri adduned maniffesto’r Ceidwadwyr i beidio â chwtogi at gyllid gwledig am yr ail flwyddyn yn olynol.
Datgelodd cyllideb ac adolygiad o wariant y DU, a gyhoeddwyd ar 27ain Hydref, y byddai cyfartaledd o £300 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig dros y tair blynedd ariannol nesaf.
Mae hyn £37 miliwn yn llai na’r gyllideb a ddyranwyd yn 2019 – blwyddyn pan addawodd maniffesto’r Ceidwadwyr "to guarantee the current annual [Common Agricultural Policy (CAP)] budget to farmers in every year of the next Parliament.”
Cyflwynodd UAC ddadleuon cryf a dilys mewn ymateb i benderfyniad Trysorlys y DU y llynedd i fabwysiadu dehongliad creadigol o ymrwymiad y maniffesto, a dyrannu cyllideb oedd oddeutu £137 miliwn yn llai na’r hyn a ragwelwyd, drwy gynnwys cronfeydd UE nas gwariwyd o gyfnod cyllidol PAC 2014-2020 yn ei gyfrifiadau.
Hefyd, mi anfonodd UAC lythyr at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, yn ddiweddar, yn ei annog i wneud ei orau glas i sicrhau bod ymrwymiad maniffesto’r Ceidwadwyr yn cael ei anrhydeddu eleni.
Roedd y llythyr hefyd yn nodi petai’r DU wedi aros yn yr UE a bod Cymru wedi parhau i dderbyn yr un gyfran o’r gyllideb PAC, y byddai dyraniad blynyddol cyfartalog Cymru o arian PAC wedi bod oddeutu £334 miliwn (yn seiliedig ar ddyraniadau blaenorol a’r gyfradd gyfnewid o £0.89/€) yn ogystal ag unrhyw arian nas gwariwyd.
Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd amaethyddiaeth yng Nghymru ar ei golled o tua £248 miliwn erbyn 2025, sy’n cyfateb bron i werth blwyddyn o daliadau (Colofn 1) uniongyrchol. Bydd cwtogi o’r fath yn tanseilio ffermydd teuluol, yr economi wledig a chyflogaeth yng ngefn gwlad ar adeg o ansicrwydd dybryd.
Bydd UAC yn parhau i fonitro cyhoeddiadau pellach ar yr adolygiad o wariant, ac yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ar y modd y bydd y toriadau hyn yn dylanwadu ar ddyraniadau cyllid datganoledig, cyn iddi gyhoeddi ei chyllideb yn ddiweddarach eleni.