Lansiodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ei phapur ar gapio taliadau o fewn cynlluniau cymorth yn y dyfodol yn ystod Ffair Aeaf Frenhinol Cymru eleni.
Yn 2015 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ostyngiadau ar daliadau fferm uwch, a chyfyngiad yn y pen draw ar y swm y gall ffermwr ei hawlio drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) – system a elwir yn gapio taliadau.
Hefyd yn 2015, cyflwynwyd system ‘taliad wedi’i ailddosbarthu’, sy’n lleihau taliadau ar gyfer ffermydd gydag arwynebedd mwy, ac yn cynyddu’r swm a dderbynnir gan ffermydd bach a chanolig – dull sydd o fudd i fwyafrif helaeth ffermydd teuluol Cymru.
Mae UAC wedi cefnogi capio taliadau amaethyddol uniongyrchol, ar ôl ystyried cyflogau gweithwyr fferm a ffactorau eraill, ers 2007, ar sail y ffaith bod hynny’n sicrhau bod y swm mwyaf o arian yn mynd i ffermydd teuluol nodweddiadol a chymunedau gwledig yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymrwymo i gynnal unrhyw ffurf ar gapio taliadau neu system taliad wedi’i ailddosbarthu, gan godi pryderon y bydd cynlluniau yn y dyfodol yn golygu bod arian yn cael ei gymryd oddi ar ffermydd teuluol gweithgar a’i roi i dirfeddianwyr mawr ac elusennau – neu hyd yn oed i bobl y tu allan i Gymru.
Petai hyn yn digwydd ochr yn ochr â gwanhau’r meini prawf presennol ar gyfer cymhwyso fel ‘ffermwr gweithredol’ – system sy’n ffafrio ffermwyr go iawn yn hytrach na thirfeddianwyr absennol – byddai hynny’n gwneud pethau’n waeth, drwy fynd â hyd yn oed mwy o arian oddi ar ffermydd teuluol a chymunedau gwledig.
Mae’r ddogfen capio taliadau i’w gweld yma: https://www.fuw.org.uk/images/pdf/PaymentCapping-Cymraeg.pdf
Mae UAC hefyd yn annog ei haelodau i gysylltu â’u Haelod Senedd lleol i bwysleisio pam y dylid capio taliadau o’r fath, gan ganolbwyntio ar ffermydd teuluol gweithredol go iawn sy’n gwneud y cyfraniad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf i gymunedau Cymru.
Ceir gwybodaeth bellach a thempled e-bost/llythyr yma: https://www.fuw.org.uk/cy/capio