Cwrddodd Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) â Llefarydd Plaid Cymru ar Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Cefin Campbell AS, i drafod manylion y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Cyhoeddwyd ar 22ain Tachwedd bod y ddwy blaid, yn amodol ar gefnogaeth gan aelodau’r blaid, wedi cytuno i weithio ar y cyd am y tair blynedd nesaf ar 46 o bolisïau lle mae budd cyffredin, gan gynnwys ail gartrefi, plannu coed, llygredd amaethyddol, y Gymraeg, a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Roedd gwahaniaethau amlwg rhwng dyheadau Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn eu maniffestos yn y gwanwyn, ond o ystyried y cydbwysedd cyfredol o bleidleisiau yn y Senedd, roedd Llafur yn barod i drafod ar amryw o faterion.
Mae’r cytundeb yn nodi y bydd cyfnod pontio’n cael ei gyflwyno tra bod y system taliadau fferm yn cael ei diwygio, felly bydd taliadau sefydlogrwydd yn parhau i fod yn nodwedd o’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ystod a thu hwnt i dymor presennol y Senedd.
Mae UAC wedi dadlau’n gyson o blaid cynnwys taliadau sefydlogrwydd sy’n amddiffyn ffermydd teuluol Cymru mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol, felly mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei groesawu.
Mae UAC yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n cael ei ddatblygu mewn ffordd sy’n llwyr barchu’r ymrwymiad i daliadau sefydlogrwydd.
Mae'r cytundeb hefyd yn ymrwymo i weithio '... gyda'r gymuned ffermio i wella ansawdd dŵr ac aer, trwy’r Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, gan ddefnyddio dull sy’n targedu’r gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd'.
Trafodwyd hyn gyda Mr Campbell a'r ffaith bod Aelodau’r Senedd wedi gwneud penderfyniad unfrydol yn ôl ym mis Mehefin i adolygu'r rheoliadau - proses sy'n cael ei chynnal ar hyn o bryd gan Bwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd.
Roedd adrannau eraill o'r cytundeb a drafodwyd yn ystod y cyfarfod yn cynnwys yr ymrwymiadau i roi strategaeth bwyd cymunedol ar waith, i annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd o ffynonellau lleol yng Nghymru; i weithio gyda ffermwyr i sicrhau bod y coed iawn yn cael eu plannu yn y lleoedd iawn ac amddiffyn perchnogaeth a rheolaeth leol ar goetiroedd; a rhoi rheolau ar waith i gymryd camau radical ar unwaith i fynd i'r afael a’r doreth o ail gartrefi a thai anfforddiadwy.
Mae UAC yn parhau i fod wedi ymrwymo i fonitro’r broses o roi’r cytundeb hwn ar waith, os caiff ei basio gan aelodau’r blaid, neu unrhyw ddatblygiadau eraill, i sicrhau’r dyfodol gorau i’n ffermydd teuluol