CYSYLLTWCH A'CH AELOD O'R SENEDD I DDWEUD PAM RYDYM AM GAPIO TALIADAU


Yn 2015 cyflwynodd Llywodraeth Cymru ostyngiadau ar gyfer taliadau fferm uwch a chyfyngiad terfynol ar y swm y gallai ffermwr ei hawlio trwy Gynllun y Taliad Sylfaenol - system a elwir yn capio taliadau.

Hefyd cyflwynwyd system 'Taliad Ailddosbarthu' yn 2015 sy'n lleihau taliadau ar gyfer ffermydd ag ardaloedd mwy ac yn cynyddu'r swm o arian y mae ffermydd llai a chanolig yn derbyn - dull sydd o fudd i fwyafrif helaeth o ffermydd teuluol Cymru.

Mae UAC wedi cefnogi capio taliadau amaethyddol uniongyrchol ers 2007 ar ôl ystyried cyflogau gweithwyr fferm a ffactorau eraill, ar y sail bod hyn yn gwneud y mwyaf o'r arian sy'n mynd i ffermydd teuluol a chymunedau gwledig nodweddiadol Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ymrwymo i gynnal unrhyw fath o gap talu neu system dalu ailddosbarthu, gan godi pryderon y bydd cynlluniau cymorth y dyfodol yn arwain at gymryd arian oddi wrth ffermydd teuluol sy'n gweithio'n galed a'i roi i dirfeddianwyr ac elusennau mawr - neu hyd yn oed pobl y tu allan i Gymru.

O’i gyplysu â gwanhau meini prawf cymhwysedd cyfredol y ‘ffermwr actif’ - system sy’n ffafrio ffermwyr go iawn yn hytrach na pherchnogion tir absennol - byddai hyn yn gwneud pethau’n waeth, trwy dynnu hyd yn oed mwy o arian oddi wrth deuluoedd sy’n ffermio a chymunedau gwledig.

Darllenwch mwy am gapio taliadau yma.

Cysylltwch â’ch Aelodau o’r Senedd i dynnu sylw at pam rydych yn credu y dylid capio taliadau a chanolbwyntio ar ffermydd teuluol dilys sy’n gwneud y cyfraniad economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf i gymunedau Cymru.

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer eich Aelodau o’r Senedd trwy glicio yma.

Rydym wedi darparu templed e-bost/llythyr y gallwch ei gopïo a'i anfon - cliciwch yma.