Cododd UAC bryderon yn ddiweddar gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) ac yn ystod cyfarfod gyda’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths ynghylch amseriad cynnig estyniadau i gontractau Glastir ar drothwy cyfnod y Nadolig.
Oherwydd amseriad cyfarfod Pwyllgor Monitro’r Rhaglen, byddai’r cyfnod tair wythnos yn dilyn hynny i ddeiliaid contractau Glastir allu derbyn eu hestyniadau’n gorfod dod i ben ar 31ain Rhagfyr – ar adeg pan mae llai o staff ar gael yn RPW a swyddfeydd Llywodraeth Cymru, gan olygu bod y rhai oedd am gwestiynu contractau yn methu â gwneud hynny cyn y dyddiad cau.
Cyhoeddwyd ers hynny bod y dyddiad cau i dderbyn estyniadau i gontractau wedi’i ymestyn hyd 31ain Ionawr 2022.
Er bod y contractau presennol yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr 2021 a bod gan ddeiliaid contractau hyd at 31ain Ionawr 2022 i dderbyn eu contract newydd, mae’n bwysig nodi y bydd angen i ddeiliaid contractau ddal ati i gadw at holl amodau eu contract presennol o 1 Ionawr 2022 os ydyn nhw bwriadu derbyn yr estyniad i’r contract.