O Ddydd Llun 29ain Tachwedd ymlaen, mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan (a sefydlwyd ar 3ydd Tachwedd) wedi’i ymestyn, ac erbyn hyn mae’n orfodol cadw dofednod ac adar caeth dan do. Bydd y mesurau hyn, ochr yn ochr â’r rheolau bioddiogelwch presennol, yn helpu i leihau’r risg o Ffliw Adar yn lledaenu o adar gwyllt i adar domestig:
- Cadw dofednod ac adar caeth dan do neu roi netin o’u hamgylch i’w cadw ar wahân i adar gwyllt
- Glanhau a diheintio dillad, esgidiau, offer a cherbydau, cyn ac ar ôl unrhyw gyswllt â dofednod ac adar caeth – os yn ymarferol, defnyddio dillad amddiffynnol tafladwy
- Sicrhau bod cyn lleied o bobl, cerbydau ac offer â phosib yn mynd a dod o ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, i leihau halogiad o dail/tom, slyri a chynnyrch arall, a defnyddio dulliau effeithiol o reoli llygod mawr
- Glanhau a diheintio mannau lle mae adar yn byw yn drylwyr ac yn rheolaidd
- Cadw diheintydd o’r crynhoad cywir ger pob mynedfa ac allanfa ar y fferm ac ardaloedd lle cedwir dofednod
- Sicrhau cyn lleied â phosib o gyswllt, uniongyrchol ac anuniongyrchol, rhwng dofednod ac adar caeth ag adar gwyllt, gan gynnwys gwneud yn siŵr nad yw adar gwyllt yn gallu mynd at unrhyw fwyd a dŵr
Mae cyrff cyngor iechyd cyhoeddus a safonau bwyd yn cynghori bod y perygl i iechyd dynol a’r risg i ddiogelwch bwyd defnyddwyr yn y DU yn isel iawn.
Os ydych chi’n amau bod gennych haint Ffliw Adar yn eich haid, dylech ffonio’r llinell hon, sy’n benodol ar gyfer Cymru: 0300 303 8268.
Dylid rhoi gwybod am unrhyw adar gwyllt marw a welir drwy ffonio llinell gymorth DEFRA ar 03459 33 55 77.
Am wybodaeth bellach ewch i: https://llyw.cymru/ffliw-adar