Crynodeb o newyddion Chwefror 2023

Senedd yr UE yn cymeradwyo cynnig am strategaeth gwrtaith UE hirdymor 

Mewn cynnig a gymeradwywyd ym mis Chwefror, mae Senedd yr UE wedi annog Comisiwn yr UE i gymryd camau i ostwng prisiau a chynyddu ymreolaeth strategol yr UE dros wrteithiau.

Yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, cododd prisiau gwrtaith ac ynni yn sydyn iawn, gyda phrisiau gwrtaith nitrogen yn cynyddu o 149%, a’r gwneuthurwyr gwrtaith mwyaf yn cofnodi elw mwy nag erioed.

Er yn cydnabod na all yr UE ddod yn hunangynhaliol o ran gwrtaith mwynol, gofynnwyd, fel mesur tymor byr, am gynyddu argaeledd gwrtaith ar gyfer ffermwyr a sefydlogi’r prisiau.  Cynigiodd Aelodau Senedd Ewrop y dylid defnyddio rhan o gyllideb amaethyddiaeth 2023 i roi cymorth di-oed i ffermwyr, ac ymestyn y cyfnod mewnforio di-doll dros dro ar gyfer gwrteithiau mwynol, ar wahân i’r rhai’n dod o Rwsia a Belarws.

 

Ffermwyr Iwerddon yn Protestio am yr Argyfwng Incwm Defaid

Bu ffermwyr yng Ngweriniaeth Iwerddon yn protestio ar 13eg Chwefror i dynnu sylw at yr argyfwng incwm maent yn ei wynebu, sy’n mynd o ddrwg i waeth.

Roedd y brotest a drefnwyd gan Gymdeithas Ffermwyr Iwerddon (IFA) ac a gynhaliwyd yn Roscommon, yn galw ar Lywodraeth Iwerddon i fynd i’r afael â’r pryderon a fynegwyd  gan y protestwyr. 

Mae’r gostyngiad ym mhris cig defaid yn ogystal â chostau mewnbwn uchel yn golygu bod eu helw wedi gostwng dros 80%, sy’n cynnwys taliad o €12 y ddafad gan Gynllun Gwella Defaid Iwerddon.

Mae’r IFA yn gofyn am gynyddu’r taliad i €30 y ddafad.

 

Diadell Ddefaid Awstralia ar fin Dod y Fwyaf ers 15 Mlynedd

Mae sefydliad Cig a Da Byw Awstralia (MLA) wedi dweud bod niferoedd diadell ddefaid genedlaethol Awstralia ar fin bod ar eu huchaf ers 2007.

Yn dilyn blynyddoedd o sychder, disgynnodd niferoedd y ddiadell ddefaid genedlaethol i 64 miliwn yn 2020 ond mae’n debygol o gyrraedd 78 miliwn yn 2023.  Mae’r MLA hefyd yn disgwyl gweld y lefelau cynhyrchu ac allforio cig oen uchaf erioed yn 2023 ac maent yn anelu at wella cyfleoedd o fewn y marchnadoedd Ewropeaidd. 

Awstralia yw allforiwr cig defaid mwyaf y byd, ac yna Seland Newydd.

 

 

 

Yr UE yn gweld twf mewn Ffermio Organig 

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi adroddiad - ‘Organic farming in the EU – a decade of organic growth’. Mae’r adroddiad yn dangos bod y gyfran o dir amaethyddol yn yr UE sy’n cael ei ffermio’n organig wedi cynyddu dros 50% yn ystod y cyfnod 2012-2020 gan gyrraedd 14.8 miliwn o hectarau erbyn 2020.

Dyblodd manwerthiant cynnyrch organig yn yr UE rhwng 2015 a 2020 gan gyrraedd €44.8 biliwn.  Roedd y gyfran fwyaf o’r tir sy’n cael ei ffermio’n organig yn yr UE yn laswelltir parhaol, sef 42%, yna porthiant glas, 17% a grawnfwyd, 16%.

Serch y twf sylweddol, mae cynhyrchu anifeiliaid organig ar draws yr aelod-wladwriaethau’n dal i gyfrif am gyfran fach yn unig o’r holl anifeiliaid a gynhyrchir gan yr UE, yn amrywio o 1% i 7% gyda thua 6% o’r buchesi gwartheg a 7.2% o’r diedyll defaid a geifr yn cael eu magu’n organig.

 

Mae’r adroddiad hwn hefyd yn dangos bod ffermydd organig yn tueddu i fod yn fwy, ar gyfartaledd, na ffermydd confensiynol a’u bod yn cael eu rhedeg gan reolwyr fferm ifancach.