Ni ddylai Teledu Cylch Cyfyng Mandadol mewn Lladd-dai roi baich ariannol ychwanegol ar ein cynhyrchwyr

Cafodd ymgynghoriad diweddar ar wneud Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) yn fandadol yn lladd-dai Cymru gefnogaeth gyffredinol gan aelodau Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).  Roedd yr aelodau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn gobeithio y byddai Teledu Cylch Cyfyng mandadol yn helpu i gynyddu hyder defnyddwyr yn y safonau iechyd a lles anifeiliaid uchel a ddefnyddir i gynhyrchu da byw yng Nghymru.

Er bod yr aelodau’n cytuno gyda gosod Teledu Cylch Cyfyng mandadol mewn lladd-dai, roeddent yn glir na ddylid gorfodi’r diwydiant i ysgwyddo costau system gymhleth sy’n or-fiwrocrataidd, ymyrgar a haearnaidd.  Gall y modd y mae’r gadwyn gyflenwi bresennol  yn gweithredu gael effaith andwyol ar gynhyrchwyr cynradd, ac yn aml gall cynhyrchwyr ddod yn gyfrifol am ysgwyddo costau ychwanegol sydd wedi digwydd yn uwch i fyny’r gadwyn gyflenwi.  Wrth ymateb i ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth Cymru, pwysleisiodd UAC hefyd bod yna berygl y gall costau eithafol gosbi mentrau bach a chanolig.

Mae safleoedd o’r fath yn chwarae rôl allweddol o fewn y diwydiant cyfan, yn cyflenwi amryw o farchnadoedd a gwasanaethau hanfodol, gan gynnwys marchnadoedd lleol domestig a marchnadoedd arbenigol, drwy siopau cigydd, siopau delicatessen a mannau gwerthu eraill; marchnadoedd ethnig, sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r gadwyn gyflenwi, ac sy’n dibynnu’n bennaf ar ladd-dai canolig eu maint, yn ogystal â busnesau megis gwestai a bwytai, y mae eu llwyddiant yn dibynnu ar eu gallu i ddefnyddio cynnyrch busnesau lleol bach a chanolig.

Mi allai costau eithafol gael effaith andwyol ar y farchnad cig gwartheg hŷn, sydd wedi chwarae rhan ganolog yn nhermau economeg y farchnad gyfan ers i’r gwaharddiad dros 30 mis ddod i ben, gan ddarparu gwasanaethau lleol ar gyfer cynhyrchwyr cynradd ac organig, na fyddai ar gael fel arall, a chyflenwi brandiau lleol a rhanbarthol, gan gynnwys i awdurdodau lleol.

Fodd bynnag, gall safleoedd o’r fath fod yn wasgaredig yn ddaearyddol ac felly mae sicrhau hyfywedd a chynaliadwyedd y busnesau hyn yn hanfodol.