UAC yn Rhwystredig o Hyd am yr Oedi gyda Deddfwriaeth BVD

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu’r ffaith bod y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cydnabod yr angen am raglen orfodol i reoli Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) ar lefel genedlaethol yng Nghymru, ond mae’r Undeb yn pwysleisio‘r angen i fynd ati i ddeddfu’n fuan fel na fydd y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn mynd yn ofer.

Cafodd yr angen i ddeddfu er mwyn rheoli BVD ei amlinellu mewn datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ar 31ain Ionawr.

Mae UAC yn croesawu’r ffaith bod y Gweinidog yn cydnabod yr angen am gydlyniad cenedlaethol i waredu’r wlad o BVD.  Fodd bynnag, mae’r Undeb wedi bod yn glir ers dechrau’r rhaglen wirfoddol Gwaredu BVD, sy’n cael ei hariannu gan y Cynllun Datblygu Gwledig, y gall unrhyw gynnydd a wnaed yn ystod y cam gwirfoddol fynd yn ofer os bydd yna fwlch sylweddol rhwng diwedd y rhaglen wirfoddol a dechrau’r ddeddfwriaeth.

Fel rhan o’r cynllun Gwaredu BVD, a lansiwyd yn 2017, mae 83% o fuchesi Cymru wedi’u sgrinio am BVD, a nodwyd dros 1,000 o anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus.

Mae UAC wedi dweud yn glir mai peidio â chael bwlch yw’r ffordd orau a mwyaf effeithlon o bontio rhwng y cam gwirfoddol a chyflwyno deddfwriaeth i waredu’r wlad o BVD.  Fodd bynnag, ymddengys erbyn hyn y gall fod yna gyfnod pontio hirfaith cyn cyflwyno deddfwriaeth, ac mae UAC yn poeni y bydd hyn yn arwain at ostyngiad yn y lefelau sgrinio blynyddol.

Yn ôl y crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyflwyno Cynllun Gwaredu BVD roedd  bron 90% o’r ymatebwyr yn cytuno y dylid cyflwyno deddfwriaeth BVD yng Nghymru.

Yn ymateb UAC i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, gwnaed hi’n gwbl glir bod angen pontio llyfn a di-oed tuag at ddeddfwriaeth er mwyn cynnal y momentwm.  Mae’n hynod o rwystredig felly bod y cynllun Gwaredu BVD wedi dod i ben yn Rhagfyr 2022 heb unrhyw gynlluniau pendant i ddechrau ar raglen ddeddfwriaeth.  

Serch hynny, mi fydd UAC yn defnyddio’r cyfnod pontio i sicrhau na fydd y ddeddfwriaeth BVD yn y dyfodol yn rhy feichus na chostus, a bydd yn parhau i ofyn am esboniad ar sawl agwedd ar y ddeddfwriaeth BVD na chafodd sylw llawn yn yr ymgynghoriad.  Fel rhan o ymrwymiad UAC i waredu Cymru o BVD, bydd yr Undeb yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw raglen yn y dyfodol yn effeithiol a chymesur.

Er bod y cyllid ar gyfer profi stoc ifanc a chanfod anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus yn dd-dâl wedi dod i ben, mae UAC yn cynghori ei haelodau i ddal ati i sgrinio am BVD yn ystod y cyfnod pontio.  Dyma’r ffordd orau o warchod buchesi rhag BVD ac mi fydd yn helpu ceidwaid gwartheg i fod yn barod ar gyfer rhaglen reoli ddeddfwriaethol yn y dyfodol.