Mae angen i’r cynllun trwyddedu arfaethedig fod yn hyblyg a gweithio i ffermwyr Cymru dros y tymor hir, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoli maethynnau:  rheoli mewn ffordd gynaliadwy y modd y mae tail da byw yn cael ei wasgaru, gan bwysleisio bod angen i ofynion y cynllun fod yn hyblyg a gweithio i ffermwyr yng Nghymru dros y tymor hir. 

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig cynllun trwyddedu tebyg i system randdirymu’r Undeb Ewropeaidd, a fyddai’n caniatáu i ffermydd cymwys  gynyddu terfyn nitrogen blynyddol y daliad, o 170kg yr hectar i 250kg yn unol ag amodau arbennig - cynllun a fyddai’n cynnig sicrwydd i’r ffermwyr cymwys hynny sydd eisoes uwchlaw’r terfyn 170kg ond nad yw lleihau niferoedd stoc neu brynu/rhentu tir ychwanegol yn opsiynau ymarferol iddynt.

Fodd bynnag, mae yna bryder mawr o hyd am y meini prawf a’r gofynion arfaethedig a sut y bydd hynny’n pennu, i bob pwrpas, faint o ffermydd fydd yn gymwys mewn gwirionedd ar gyfer y cynllun trwyddedu.

Er enghraifft, mae UAC o’r farn y dylid defnyddio’r gofyniad am 80% o laswelltir fel canllaw yn hytrach na gofyniad statudol, yng ngoleuni cynigion diweddaraf y Cynllun Ffermio Cynaliadwy mewn perthynas â chynefin a gorchudd coed, ac mae’n hanfodol bod ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos, i sicrhau nad yw’r rhai sydd wedi’u lleoli ger ardaloedd dynodedig neu gyrff dŵr, sy’n methu â chael statws da, yn cael eu hamddifadu o drwydded oherwydd llygredd o ffynonellau eraill.

Mae UAC yn parhau i dynnu sylw at yr effaith anfwriadol y bydd y terfyn 170kg ynddo’i hun yn ei gael ar allu ffermwyr Cymru i gynnal lefelau cynhyrchu bwyd, effaith sydd yn amlwg heb ei ystyried o ddifrif hyd yn hyn.

Os ystyrir dadansoddiad diweddar AHDB ac ystadegau’r rhanddirymiad yng Ngogledd Iwerddon yn 2019, mae gan y cynigion o ran cynllun trwyddedu y potensial i leihau’r cwymp a amcangyfrifir yn lefelau cynhyrchu llaeth Cymru, o 336 miliwn litr (17%) i tua 300 miliwn litr (15%) – a bwrw bod popeth arall yn gyfartal.

Rhaid i Lywodraeth Cymru felly ystyried o ddifrif yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a chymryd y cyfle hwn i gyflwyno cynllun trwyddedu effeithiol sy’n gweithio i ffermwyr yng Nghymru nawr nad ydyn nhw’n gaeth i gyfreithiau’r UE – dylid hefyd ei gyflwyno fel rhan barhaol o’r rheoliadau, a’i ystyried fel arfer y gellir ei ddefnyddio i geisio diogelu’n cyflenwad bwyd, a thaclo heriau yn y dyfodol tu hwnt i 2025.

Yn ei hymateb, pwysleisiodd UAC sut mae pryderon ynghylch y rheoliadau’n berthnasol i bob fferm yng Nghymru i ryw raddau, a’i bod hi’n hanfodol bwysig felly bod Llywodraeth Cymru’n ystyried y farn ar sut y gallai rhai amodau trwyddedu liniaru’r pergyl o lygredd uniongyrchol a gwasgaredig, mewn ffordd sy’n golygu bodd modd eu rhoi ar waith fel rhan o’r rheoliadau ehangach ar draws Cymru gyfan. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru, ar y cyfle cyntaf, ystyried a gweithredu mesurau amgen sy’n gwneud defnydd o dechnolegau, er mwyn gallu symud i ffwrdd o ofynion storio rhagnodedig a chyfnodau cau penodedig ar gyfer taenu slyri, a hynny ar gyfer yr holl ffermwyr yng Nghymru sy’n gorfod cadw at y rheoliadau, nid dim ond yr ychydig rai sy’n gallu cwrdd â gofynion taenu’r cynllun trwyddedu.

Nes bod Llywodraeth Cymru’n defnyddio mecanwaith Rheoliad 45 i ystyried atebion technolegol amgen, yn ystyried canlyniad Asesiad Effaith Rheoleiddiol y terfyn 170kg, ac yn cynnal adolygiad ffurfiol o effeithiolrwydd y rheoliadau yn Ebrill 2025, mae UAC yn annog y Llywodraeth i ohirio’r rheoliadau y mae’n bwriadu eu cyflwyno'r flwyddyn nesaf, fel bod pawb yn gwybod ble maen nhw’n sefyll.