Mae’r Bil Amaethyddiaeth yn gosod newidiadau sylfaenol i’r egwyddorion a fu’n greiddiol i’n diwydiant amaeth a’n cymunedau gwledig ers yr 1940au. Mi fydd yn diffinio economi, amgylchedd, cymdeithas a diwylliant cefn gwlad Cymru am ddegawdau, felly mae angen iddo fod yn iawn.
Er bod Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi croesawu nifer o elfennau’r Bil ar ôl iddo gael ei gyflwyno i’r Senedd ym Medi 2022, mae UAC wedi codi nifer o bryderon ac wedi tynnu sylw at feysydd sydd angen eu gwella ym marn yr Undeb, i wneud darn mor bwysig o ddeddfwriaeth yn addas i’r diben.
Yn arbennig, o ystyried rhyng-gysylltedd a chyd-ddibyniaeth rheoli tir, cynhyrchu bwyd, a bywoliaethau gwledig, cafodd UAC ei syfrdanu gan y diffyg sylw neu amcanion yn ymwneud â hyfywedd economaidd teuluoedd ffermio a bywoliaethau trigolion cefn gwlad o fewn y diffiniad o Reoli Tir yn Gynaliadwy (SLM) a’r egwyddorion cymorth a osodwyd yn y Bil.
Fel y cyfryw, mae’r Bil ar ei ffurf bresennol yn diystyru i bob pwrpas y golofn economaidd, sef un o’r tair colofn cynaliadwyedd a gydnabyddir yn fyd-eang, ynghyd â’r golofn amgylcheddol a’r golofn gymdeithasol/diwylliannol.
Mae cynnig Llywodraeth Cymru i ddiwygio’r Bil i gynnwys cydnerthedd busnesau amaethyddol fel rhan o amcan cyntaf Rheoli Tir yn Gynaliadwy (ALM) yn gam positif tuag at sicrhau bod y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn cynnal hyfywedd economaidd teuluoedd ffermio a chymunedau gwledig, yn ogystal â’r bywoliaethau a’r swyddi y mae cadwyni cyflenwi amaethyddol yn eu cynnal.
Fodd bynnag, mae UAC yn nodi bod y term ‘economaidd’ yn absennol o’r diwygiad arfaethedig, ac mi fydd nifer o aelodau UAC yn bryderus bod y term ‘cydnerthedd’ wedi’i ddefnyddio yn y gorffennol i guddio llu o bolisïau sydd wedi bod yn llai effeithiol nag y byddid wedi gobeithio.
Mae UAC o’r farn felly y byddai’n well ychwanegu pumed amcan SLM gwahanol at y Bil, gyda’r nod penodol o ddiogelu’r economi amaethyddol a’r cymunedau a’r bywoliaethau sy’n dibynnu arni, ac na fyddai hynny’n amharu ar ddyheadau amgylcheddol na dyheadau eraill y Bil, y mae UAC yn eu cefnogi’n llwyr.
Mae UAC hefyd yn gweld cynnig Llywodraeth Cymru i ychwanegu tri diben arall at y pŵer i ddarparu cymorth dan Adran 8 fel cam positif tuag at restr fwy holistaidd sy’n ymgorffori amcanion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd o fewn y ddeddfwriaeth.