Cafodd afancod eu rhyddhau i’r gwyllt yn gyfreithiol yng Nghymru yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi ym Mhowys yn 2021, pan wnaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Maldwyn gais llwyddiannus am drwydded i ryddhau chwe afanc. Does dim ceisiadau ar droed ar hyn o bryd, ond dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn disgwyl un.
Mae’r rhai sy’n cefnogi’r ailgyflwyno’n honni eu bod yn helpu i daclo materion pwysig fel llifogydd, eu bod yn creu cynefinoedd newydd, a’u bod yn rhan bwysig o’r broses honno fel peirianwyr amgylcheddol.
Mae ffermwyr a physgotwyr yn tynnu sylw at eu heffeithiau negyddol ar y dirwedd, y difrod i lannau afonydd, colli tir cynhyrchiol oherwydd llifogydd, a phryder cyffredinol ynghylch rheoli poblogaethau o afancod dros y tymor hir, ymhlith pethau eraill.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru am gael darlun cliriach o ailgyflwyno afancod yng Nghymru fel rhan o’r adolygiad, ac maent wedi gofyn i Brifysgol Exeter i gynnal arolwg cyhoeddus i gael barn y cyhoedd ar ryddhau afancod, a lleoliadau addas ar gyfer gwneud hynny.
Mae’r arolwg yn debygol o ffurfio rhan o’r adolygiad, gan effeithio ar ganlyniad ceisiadau am drwyddedau rhyddhau yn y dyfodol.
Mae’r arolwg dienw’n cymryd tua 10-15 munud i’w gwblhau. I ddweud eich dweud dilynwch y ddolen yma
Barn UAC ar ryddhau afancod yng Nghymru
Mae UAC yn erbyn ailgyflwyno afancod, o ystyried y dystiolaeth am y difrod y gallant ei achosi’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i dir ffermio, cnydau, a’r seilwaith, yn ogystal â’r effeithiau ehangach posib o fewn rhai ardaloedd gwledig - er enghraifft, llifogydd yn effeithio ar dai, ffyrdd a seilwaith tebyg, gan gynnwys atal cerbydau brys rhag defnyddio ffyrdd mewn ardaloedd sydd â seilwaith ffyrdd gwael.
Fodd bynnag, o ystyried bod afancod yn cael eu gwarchod yn Lloegr (a’r dybiaeth na fydd rheolaeth farwol); profiadau gwledydd eraill yn nhermau lledaeniad afancod, a’r perygl y bydd afancod yn cael eu hailgyflwyno’n gyfreithlon a/neu’n anghyfreithlon yng Nghymru serch y pryderon, dylid sefydlu fframwaith a strategaeth synhwyrol yng Nghymru i ddelio â’r canlynol:
1. Problemau a achosir gan y poblogaethau presennol
2. Problemau a achosir wrth i afancod ledaenu i diriogaethau newydd
3. Cynlluniau arfaethedig i ailgyflwyno afancod dan drwydded
4. Cyflwyno’n anghyfreithlon
Yn nhermau sicrhau bod modd mynd i’r afael â phroblemau a achosir gan afancod yn ddi-oed, ni ddylai Cymru roi statws gwarchodedig i afancod, oherwydd mi fyddai hynny’n rhwystro unrhyw gamau sydd angen eu cymryd - ar frys yn aml - i atal difrod sylweddol neu hyd yn oed berygl i fywydau o bosib.
Mae UAC o blaid gweithio gyda chyrff eraill sy’n rhannu pryderon yr Undeb, i sicrhau bod strategaeth a fframwaith cenedlaethol yn cael eu sefydlu sy’n atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf, a sicrhau bod yna ddulliau yn eu lle i reoli unrhyw effeithiau a all godi, yn seiliedig ar y profiadau ledled Ewrop ac yn fwy diweddar, yn y DU.
Dylai’r broses o greu strategaeth o’r fath ac unrhyw waith rheoli parhaus gael ei lywodraethu gan gorff sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob ochr sydd â diddordeb, gan gynnwys sefydliadau ffermio, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Traffig Cymru a Network Rail. Dylai corff o’r fath fod ag adnoddau digonol, ac anelu at sicrhau cydbwysedd rhwng dyheadau’r rhai sydd am weld afancod yn cael eu hailgyflwyno â buddiannau rhywogaethau eraill a chynefinoedd Cymru, perchnogion a rheolwyr eiddo a seilwaith, a’r holl randdeiliaid perthnasol.
Os bydd yr awdurdodau’n caniatáu ailgyflwyno afancod, dylai’r rhai sy’n gyfrifol am y rhyddhau fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am negyddu’r holl effeithiau andwyol, gan gynnwys colledion ariannol a chostau dilynol i ffermwyr ac eraill, yn ogystal ag unrhyw gostau rheoli/cael gwared ag argloddiau ac ati.