Dechreuodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gam cyntaf y treialon i berfformiad a diogelwch y prawf croen DIVA (Gwahaniaethu Rhwng Anifeiliaid Wedi’u Brechu ac Anifeiliaid Wedi’u Heintio) newydd i ganfod bTB mewn da byw heb eu brechu yn 2021. Mae canlyniadau cam un yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.
Mae cam dau yn cynnwys treialon maes a fydd yn asesu diogelwch y brechlyn CattleBCG a diogelwch a pherfformiad y prawf croen DIVA pan gaiff ei ddefnyddio ar wartheg sydd wedi’u brechu. Os bydd y cam hwn o’r profion yn llwyddiannus, mi allai’r DU fod un cam yn nes at frechu gwartheg yn erbyn bTB yn ddiogel a llwyddiannus.
Mae ffermwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y profion, a bwrw bod eu ffermydd yn bodloni’r meini prawf perthnasol. Disgwylir y bydd y treialon wedi’u cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.
Gofynnir i unrhyw rai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan, ac sy’n bodloni’r meini prawf canlynol i ebostio
Y meini prawf ar gyfer cymryd rhan:
- Buchesi â Statws heb TB Swyddogol (OTF) yn Ardaloedd Risg Isel (LRA) Lloegr neu Ardaloedd TB Isel (LTBA) Cymru
- Buchesi sydd wedi bod mewn bodolaeth am wyth mlynedd neu fwy
- O leiaf tair blynedd di-dor heb TB (statws OTF) gyda phrawf croen Twbercwlin Sengl (SICCT) wedi’i gwblhau o fewn tair blwyddyn galendr o Ddiwrnod -7
- Ddim yn rhan o gyfundrefn profion TB ddwys neu gyffiniol ar hyn o bryd
- Ddim o fewn ardal â phroblem TB gyfredol (fel y’u diffinnir gan APHA)
- Heb brynu gwartheg o ardal TB risg uwch yn ystod y 12 mis diwethaf (o Ddiwrnod -7)
- Dim profion TB statudol wedi’u trefnu yn ystod cyfnod yr astudiaeth arfaethedig (Diwrnod -7 i Ddiwrnod 91).