Briff UAC – Y Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghymru ar ôl Brexit

Yn dilyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ynghylch gwariant Cynllun Datblygu Gwledig (RDP) yr UE, cadarnhaodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd fod y cyfanswm gwariant, ar ddiwedd 2022, yn £680 miliwn.  Mae gwerth y rhaglen  gyfan yn £842 miliwn felly mae tua £162 miliwn heb ei wario o hyd.

Dan reolau’r UE rhaid i Gymru fod wedi ymrwymo ei gwariant erbyn diwedd 2020 ac mae ganddi tan ddiwedd 2023 i ddefnyddio cyllid o’r fath, neu fel arall mi fydd yn cael ei ddychwelyd i’r UE.

Dywedodd y gweinidog fod y rhaglen wedi’i gor-ymrwymo, ac mae’n disgwyl i brosiectau gyflawni yn erbyn eu hamcanion cytunedig yn unol â rheol N+3 RDP 2014-2020.

Mae pryderon UAC ynghylch gweinyddu a monitro RDP Cymru 2014-2020 wedi cael cryn gyhoeddusrwydd, gan gynnwys yn nhermau’r tanwariant o 2020 ymlaen, a arweiniodd at y cyllid a ddisodlodd PAC yng Nghymru’n cael ei leihau o tua £250 miliwn gan Lywodraeth y DU.

Fodd bynnag, mae UAC hefyd yn bryderus, wrth i Gymru nesáu at ddiwedd cyfnod gwario cyllid RDP 2014-2020, bod Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen yn hynod o araf yn nhermau datblygu RDP cynhwysfawr i ddisodli’r un blaenorol, a bod ganddi, man gorau felly, gynllun elfennol yn ei le - heb fawr o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ynghylch datblygu cynllun disodli o’r fath.

Er bod UAC yn cydnabod bod ambell i gyhoeddiad wedi’i wneud sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu gwledig, mae yna bryder sylweddol bod dull tameidiog wedi datblygu/yn mynd i ddatblygu, gyda chynlluniau a mentrau’n cael eu cyhoeddi yn dilyn datblygiadau mewnol gan Lywodraeth Cymru, heb fawr ddim mewnbwn gan randdeiliaid ac arbenigwyr allanol, a dim rhaglen gyffredinol gynhwysfawr yn seiliedig ar dystiolaeth.

Yn naturiol, mae’r diffyg prosesau craffu ymddangosiadol (o’i gymharu ag RDP yr UE) yn nhermau rhoi cynlluniau o’r fath at ei gilydd a monitro eu cynnydd yn bryder, ac yn y cyd-destun hwn, ymddengys bod Llywodraeth Cymru’n symud/wedi symud tuag at y math o brosesau dylunio, asesu a gweinyddu ‘mwy hamddenol’ sydd yn eu lle erbyn hyn dan fodelau ariannu math Ffyniant Cyffredin/Ffyniant Bro Llywodraeth y DU - sydd wedi arwain at  feirniadaeth haeddiannol, gan gynnwys o du Llywodraeth Cymru, am eu dulliau gwasgaredig.

Hefyd, mae UAC yn bryderus bod diffyg cynllun RDP cynhwysfawr yng Nghymru’n golygu ein bod mewn perygl cynyddol o beidio â derbyn cyllid gan Lywodraeth y DU, ar sail y ffaith na ddylid disodli cyllid Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) heb weld cynllun a thystiolaeth glir o’r modd y mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu gwario cyllid o’r fath, a sut y bydd Cymru’n elwa ohono.