Crynodeb o newyddion Mawrth 2023

Datgelu taliadau PAC yr Alban dan gais Rhyddid Gwybodaeth

Mae’r symiau a dalodd yr Alban i hawlwyr yn 2022 dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr Alban wedi’u datgelu yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth..

Serch terfyn uchaf o tua £500,000 ar gyfer y Taliad Arwynebedd Sylfaenol, roedd cyfanswm y taliad uchaf bron yn £3.4 miliwn, ac roedd y 10 taliad uchaf bron yn £1.2 miliwn a mwy.

Roedd mwyafrif y 10 taliad uchaf yn ystadau, tirfeddianwyr ac elusennau mawr, yn cynnwys taliadau cynlluniau amgylcheddol a phlannu coed ar raddfa eang.

Cynyddu cyfraddau iawndal TB Gweriniaeth Iwerddon

Mae Gweinidog Amaeth Gweriniaeth Iwerddon wedi cyhoeddi cyfres o godiadau yn y iawndal i ffermwyr sydd wedi cael achos o TB ar y fferm, ynghyd â thaliad ar gyfer profion cyn symud.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu cynnydd yn yr atodiad incwm, y grant caledi, a’r grant diboblogi, gyda’r holl daliadau atodol yn cynyddu dros 25% ar gyfer buchod llaeth, a rhwng 18 a 25% ar gyfer anifeiliaid sugno.

 

Treialon brechu gwartheg yn erbyn TB

Dechreuodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gam cyntaf y treialon i berfformiad a diogelwch y prawf croen DIVA (Gwahaniaethu Rhwng Anifeiliaid Wedi’u Brechu ac Anifeiliaid Wedi’u Heintio) newydd i ganfod bTB mewn da byw heb eu brechu yn 2021.  Mae canlyniadau cam un yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.

Mae cam dau yn cynnwys treialon maes a fydd yn asesu diogelwch y brechlyn CattleBCG a diogelwch a pherfformiad y prawf croen DIVA pan gaiff ei ddefnyddio ar wartheg sydd wedi’u brechu.  Os bydd y cam hwn o’r profion yn llwyddiannus, mi allai’r DU fod un cam yn nes at frechu gwartheg yn erbyn bTB yn ddiogel a llwyddiannus.

Mae ffermwyr yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y profion, a bwrw bod eu ffermydd yn bodloni’r meini prawf perthnasol.  Disgwylir y bydd y treialon wedi’u cwblhau cyn diwedd y flwyddyn.

 

Y Comisiwn Ewropeaidd i ddefnyddio’r gronfa amaethyddol wrth gefn 

Bwriedir defnyddio €56 miliwn o gymorth ychwanegol wedi’i ariannu gan y gronfa amaethyddol wrth gefn i gynorthwyo Gwlad Pwyl, Bwlgaria a Rwmania.  Disgwylir y bydd y cymorth yn iawndal i ffermwyr sydd wedi dioddef colledion economaidd yn sgil mewnforion cynyddol o rawnfwyd a hadau olew o Wcráin.

Mae’r cynnydd yn y mewnforion o Wcráin yn aflonyddu ar farchnadoedd cenedlaethol a rhanbarthol y gwledydd cyfagos, ac yn rhoi prisiau dan bwysau yn sgil gorgyflenwi. 

Bwriedir dyrannu €29,5 miliwn i Wlad Pwyl, €16,75 i Fwlgaria a €10,05 miliwn i Rwmania, gyda ffermwyr yn derbyn taliadau erbyn 30ain Medi 2023.  Gall y tair gwlad sydd wedi’u heffeithio hefyd gyd-ariannu’r cymorth hyd at 100%, gan gynyddu maint y cymorth ychwanegol posib i €112 miliwn.