UAC yn gwrthwynebu’r bwriad i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi mynegi pryderon ynghylch cynigion gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru.  Mewn ymateb i’r ymgynghoriad, pwysleisiodd yr Undeb y dylid cyflwyno cynllun cofrestru statudol di-dâl yn lle.

Mae yna deimlad cryf ymhlith y gymuned ffermio sydd wedi arallgyfeirio i gynnig llety hunanddarpar y bydd nifer o’r polisïau sydd wedi’u cynllunio gan Lywodraeth Cymru, gyda’r bwriad da o daclo effeithiau ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, yn cael effaith andwyol ar ddarparwyr dilys.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw polisïau o’r fath yn cael effaith ddi-droi’n-ôl ar ddiwydiant twristiaeth Cymru, a fyddai yn ei dro’n arwain at gynnydd sydyn yn y nifer o ddarparwyr llety sy’n gweithredu dan y radar.  O ganlyniad, mi allai hyn hefyd arwain at eiddo gwag na ellir ei ddefnyddio at ddibenion preswyl oherwydd amodau cynllunio.

Yn ei hymateb, mae UAC hefyd yn pwysleisio bod yna bryder mawr y bydd y cynllun arfaethedig yn cael ei ystyried fel arf gorfodi, drwy osod mwy o rwystrau a gofynion biwrocrataidd ar ddarparwyr llety dilys, ac yn cael ei ddefnyddio i gasglu ardoll dwristiaeth, y mae UAC eisoes wedi’i gwrthwynebu.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn tynnu sylw at fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu’n seiliedig ar fodel tebyg i Rhentu Doeth Cymru.

Mae UAC yn erbyn y cynigion i ddefnyddio model tebyg i Rhentu Doeth Cymru, sy’n amlwg wedi creu rhwystrau ychwanegol i landlordiaid sy’n ceisio darparu ar gyfer y sector rhentu, gan olygu bod nifer o dai yn segur erbyn hyn, neu wedi’u gwerthu fel ail gartrefi, sydd yn ei dro wedi dwysau’r argyfwng ail gartrefi.

Yn holl ymatebion a chyfathrebiadau UAC â Llywodraeth Cymru, pwysleisiwyd yr angen i wahaniaethu rhwng darparwyr llety dilys â rhai sy’n byw mewn ail gartrefi ac yn eu gosod ar adegau gwahanol o’r flwyddyn.

Er y byddai monitro a phlismona eiddo o’r fath yn drylwyr yn gwneud llawer i gau’r bwlch hwn, mae UAC wedi cynnig yn y gorffennol y dylid cyflwyno cynllun cofrestru statudol i fonitro nifer y tai AirBnB a chartrefi gwyliau yng Nghymru, yn ogystal â nodi’r rhwystrau biwrocrataidd y mae landlordiaid yn eu hwynebu wrth geisio darparu ar gyfer y sector rhentu.

Mae UAC yn annog ei haelodau i godi unrhyw bryderon sydd ganddynt am y newidiadau sydd i ddod ar 1af Ebrill ar gyfer llety gwyliau gyda’u swyddfa sirol.