Mi ddylai’r cynnydd o 17% mewn mewnforion cig oen y llynedd, yn ôl data masnachu 2022 y DU, a’r lefelau anarferol o uchel o gynnyrch wedi’i rewi o Seland Newydd yn dod i mewn i’r DU (ffigurau HCC) a gofnodwyd rhwng Medi a Thachwedd, fod yn rhybudd difrifol i Lywodraeth y DU, yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).
Bu Gweinidogion, Aelodau Seneddol ac Arglwyddi oedd yn cefnogi agwedd ryddfrydol Llywodraeth y DU tuag at drafodaethau masnach â Seland Newydd ac Awstralia yn dadlau, ar y pryd, na ddylai diwydiant defaid Cymru fod yn bryderus, am fod y gwledydd hynny ymhell islaw’r cyfyngiadau cwota presennol, a bod hynny’n annhebygol o newid.
Rhybuddiodd UAC bryd hynny fod hon yn farn naïf neu fwriadol gamarweiniol, nad oedd yn rhoi ystyriaeth i’r modd y gall marchnadoedd byd-eang, cyfraddau cyfnewid a ffactorau eraill newid yn gyflym, gan gynyddu meintiau mewnforion, a chael effaith negyddol ar farchnadoedd y DU. Roedd y cynnydd sylweddol mewn mewnforion cig oen o Seland Newydd yn 2022 yn dangos hynny’n glir, er bod UAC yn cydnabod bod yna ffactorau eraill hefyd ar droed o fewn y farchnad cig oen.
Mae’r DU erbyn hyn yn gaeth i gytundebau masnach â Seland Newydd ac Awstralia a fydd, fesul cam, yn diddymu’n llwyr y cyfyngiadau ar fewnforio cynnyrch Cymreig allweddol, heb fawr ddim mesurau diogelu ar gyfer cynhyrchwyr domestig. Ystyrir y cytundebau hyn fel rhai chwerthinllyd o ryddfrydol gan wledydd eraill, o ystyried y buddiannau hynod o bitw a ddaw yn eu sgil i economi’r DU, fel y tystia ffigurau’r Llywodraeth ei hun.
Mae UAC yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y DU i adolygu ei pholisi ar fasnachu rhyngwladol, a rhoi safonau a diogelwch cyflenwad bwyd y DU ar frig yr agenda - yn arbennig o ystyried natur fregus cadwyni cyflenwi hirfaith, a’r ddibyniaeth ar fewnforion a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig ac ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Mae dadansoddiadau effaith y Llywodraeth ei hun yn dangos yn glir y bydd y cytundebau hyn yn arwain at danseilio cynhyrchedd a phrisiau, a cholledion o gannoedd o filiynau i’r sector bwyd a ffermio dan rai amgylchiadau.
Mi fyddai colledion o’r fath yn waeth o lawer petai cytundebau masnach rydd tebyg yn cael eu harwyddo â gwledydd eraill y mae’r DU mewn trafodaethau â nhw ar hyn o bryd, gyda’r bwriad efallai o sicrhau cytundebau masnach â nhw yn y dyfodol.