UAC yn croesawu’r cyhoeddiad am fuddsoddiad o £17 miliwn yn Pembrokeshire Creamery Ltd.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi rhoi croeso twymgalon i’r cyhoeddiad am fuddsoddiad o £17 miliwn i ddatblygu cyfleuster prosesu llaeth newydd yn Sir Benfro, gan greu 80 o swyddi newydd dros y blynyddoedd sydd i ddod yn ne orllewin Cymru.

Bydd Pembrokeshire Creamery Ltd yn cael ei laeth o ffermydd teuluol lleol i gyflenwi capasiti 70 miliwn litr y cyfleuster prosesu newydd, gan roi hwb i gadwyni cyflenwi llaeth lleol a’r economi ehangach. 

Mae llwyddiant y buddsoddiad hwn yn greiddiol i lwyddiant y sector ffermio llaeth yn ne orllewin Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi buddsoddi £2 filiwn yn safle Parc Bwyd Sir Benfro ger Hwlffordd, ac mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn Pembrokeshire Creamery Ltd yn arddangos buddiannau creu cadwyni cyflenwi cynaliadwy a byr ar gyfer defnyddwyr yng Nghymru.

Mae’r sector bwyd a diod yn parhau i wneud cyfraniad allweddol i’r economi leol yn Sir Benfro a gorllewin Cymru, ac mae UAC yn hynod falch felly o weld buddsoddi pellach yn sector llaeth Cymru drwy brosiect newydd mor uchelgeisiol, a fydd yn golygu bod llaeth sy’n cael ei gynhyrchu a’i botelu yng Nghymru ar gael i gwsmeriaid.

Mae’r buddsoddiad hwn yn dod wrth i ddegau o ffermydd llaeth teuluol chwalu’u buchesi oherwydd yr anhawster o geisio rhedeg busnes hyfyw a llwyddiannus, ochr yn ochr â’r bygythiad parhaus o du TB Buchol, ansicrwydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol, ac effaith a chostau difrifol y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru).

Mae ffermydd llaeth yn parhau i gynhyrchu cynnyrch llaeth o safon uchel dan amgylchiadau heriol, ac mi ddylai’r buddsoddiad pwysig hwn nid yn unig greu swyddi yn yr ardal leol, ond mi ddylai hefyd fyrhau’r gadwyn gyflenwi a darparu cyfleoedd newydd i gynhyrchwyr llaeth lleol.