Ysgoloriaeth Ryngwladol Hybu Cig Cymru

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi ei bod yn derbyn ceisiadau bellach ar gyfer ei ysgoloriaeth deithio 2023.

 Mae’r ceisiadau’n agored i unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn Ysgoloriaeth gwerth £4,000 i astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu cig coch unrhyw le yn y byd.

Gall ysgolorion ddewis astudio unrhyw bwnc o fewn y gadwyn cyflenwi cig coch, sydd o fudd iddyn nhw fel unigolion ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Gall teithiau astudio bara am hyd at chwe wythnos a disgwylir i ysgolorion ysgrifennu adroddiad  a rhannu eu canfyddiadau â'r diwydiant ar ôl iddynt ddychwelyd. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm Ddydd Gwener 28ain Ebrill.

Mae’r ffurflen gais a’r Telerau ac Amodau llawn ar gael ar wefan HCC