Adolygiad o Ddatganiadau Ardal

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad o Ddatganiadau Ardal ledled Cymru.  Maen nhw am gael barn pobl i sicrhau bod Datganiadau Ardal yn cael eu diweddaru a’u gwella drwy gasglu tystiolaeth newydd, cyflwyno syniadau newydd, a chreu cyfleoedd pellach.

Mae pob Datganiad Ardal yn amlinellu’r heriau allweddol sy’n wynebu’r ardal arbennig honno, beth ellir ei wneud i gwrdd â’r heriau hynny, a sut i reoli adnoddau naturiol Cymru yn well er budd cenedlaethau’r dyfodol.

Cyhoeddwyd y Datganiadau Ardal tair blynedd yn ôl ac mae unigolion a chymunedau wedi wynebu heriau ers hynny, gan gynnwys pandemig bydeang ac argyfwng costau byw.

I gymryd rhan yn yr adolygiad, llenwch yr arolwg byr sydd ar gael drwy ddilyn y dolenni yma:-

Saesneg

Cymraeg