UAC yn rhoi sylw i’r clefyd Maedi Visna

Mae Maedi Visna (MV) yn un o nifer o glefydau rhewfryn mewn defaid ac mae wedi’i enwi ar ôl iaith Gwlad yr Iâ am arwyddion clinigol o niwmonia a nychdod.  Dros y 3 i 5 mlynedd diwethaf, gwelwyd cynnydd cyffredinol yn yr achosion o heintiau firaol cronig mewn defaid, ac mae hyn yn cynnwys heintio gyda’r feirws MV.  Er nad yw hi’n glir hyd yma a ydy’r duedd hon o ganlyniad i fwy o symudiadau defaid, cyfraddau stocio uwch, neu am fod mwy o ymwybyddiaeth gyffredinol a phrofion ar gyfer clefydau o’r fath, mae UAC wedi dod yn ymwybodol o achosion diweddar o MV ymhlith ei haelodaeth.

Mae clefyd MV yn un heintus iawn – ond yn un sy’n datblygu’n araf – cyflwr sy’n achosi nychdod, niwmonia, parlysu cynyddol, arthritis, a mastitis cronig.  Mae gan y feirws gyfnod deor hir a gall y feirws ledu am flynyddoedd cyn bod yr arwyddion clinigol i’w gweld yn y ddiadell.  Ochr yn ochr â’r cyfnod deor hirfaith, mae MV yn glefyd hynod heintus heb unrhyw frechlyn na gwellhad.  Does dim iawndal am stoc sy’n cael eu difa oherwydd MV.

Mae clefyd MV yn cael ei drosglwyddo drwy gyswllt uniongyrchol â secretiad anadlol neu drwy yfed llaeth dafad neu afr heintiedig.  Mae’r perygl o drosglwyddo clefyd MV drwy ffrwythloni artiffisial yn debygol o fod yn isel iawn.

Gall achosion o MV o fewn diadell fod yn hynod ddinistriol ac mi allai’r costau ariannol gynnwys cyfraddau difa uchel, cyfraddau marwolaeth ŵyn a defaid uchel, cyfraddau twf is, a chyfraddau beichiogi is.

Mae rheoli’r clefyd yn dibynnu ar brofion gwaed a chael gwared ag anifeiliaid heintus.  Fodd bynnag, mae’r cyfnod deor hir, a’r amser a gymerir i’r arwyddion clinigol ddod i’r golwg, yn golygu na fydd anifeiliaid heintus yn profi’n bositif efallai mewn profion PCR neu seroleg am dri i chwe mis ar ôl cael yr haint, ac efallai na fyddant yn cael eu canfod wrth sgrinio.  Felly, mae angen ail-brofi eto bob chwe mis i sicrhau bod yr holl anifeiliaid heintus yn cael eu canfod a’u symud. 

Adroddodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gynnydd yn y nifer o achosion o glefyd MV ymhlith defaid yr iseldir yn ystod chwarter cyntaf 2022.  Mae gwybodaeth filfeddygol leol hefyd yn dangos patrwm tebyg, ac mae’n bwysig bod yn ymwybodol o glefyd MV felly i atal lledaeniad y clefyd.  

Gall prynu cydwybodol helpu i leihau’r risg o gyflwyno MV i’r ddiadell, a bydd profion ymchwiliol i ganfod yr haint os oes amheuaeth bod y clefyd yn bresennol yn helpu i gael gwared â’r haint yn ddi-oed, cyn i’r feirws allu lledaenu drwy’r ddiadell gyfan.  Dylai aelodau sy’n poeni am MV gysylltu â’u milfeddyg am wybodaeth bellach.