Codi Mesurau Cadw Adar Dan Do yng Nghymru

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine wedi cyhoeddi cynlluniau i godi’r mesurau cadw dofednod ac adar caeth dan do o fewn y Parth Atal Ffliw Adar yng Nghymru a Lloegr o 00:01 Ddydd Mawrth 18fed Ebrill 2023. Fodd bynnag, bydd mesurau bioddiogelwch gorfodol y Parth Atal Ffliw Adar yn parhau ar gyfer adar o bob math. 

Ers Medi 2022, cadarnhawyd 7 achos o’r Ffliw Adar yng Nghymru, gyda rhai o blith y llu o achosion a gadarnhawyd yn Lloegr yn effeithio ar Gymru, lle mae parthau Gwarchod a Gwyliadwriaeth y clefyd yn ymestyn dros y ffin i Gymru.

Mae rhestr a luniwyd ar gyfer y DU gyfan gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn nodi bod dau achos o Ffliw Adar wedi’u cadarnhau mewn adar gwyllt yng Nghymru yn 2023, y ddau wedi’u canfod yn y Bwncath Cyffredin mewn ardaloedd o Wynedd a Phowys.

Mae’r risg bioddiogelwch o’r haint yn mynd o adar gwyllt i ddofednod ac adar caeth yn parhau, felly mi fydd gofynion APHA mewn perthynas â gwell bioddiogelwch a mesurau hylendid trylwyr i atal adar rhag cael eu heintio yn parhau, ac mae hyn hefyd yn cynnwys rhestr wirio hunanasesiad bioddiogelwch gorfodol, sydd ar gael yma