Mae Tyfu Dyfi yn chwilio am ffermwyr yng Ngogledd Powys sydd â diddordeb mewn tyfu caeau o lysiau gan ddefnyddio dulliau amaeth-ecolegol, i’w bwyta’n lleol.
Ar hyn o bryd mae Tyfu Dyfi’n gwerthu meintiau sylweddol drwy gynlluniau bocsys llysiau ac ar-lein, OND maent yn gorfod prynu peth cynnyrch, megis tatws, bresych, moron, panas ac ati gan gyfanwerthwyr i gwrdd â’r galw.
Mae gan Tyfu Dyfi rywfaint o gyllid, a gallant ddarparu cymorth megis mentora gan dyfwyr lleol profiadol, a pheiriannau ar brydles os oes angen.
Os oes gennych chi ddiddordeb ehangach a’ch bod am ddysgu oddi wrth rwydwaith o dyfwyr am opsiynau arallgyfeirio garddwriaethol a/neu dyfu ar raddfa garddio masnachol, efallai y gall Tyfu Dyfi helpu gyda hynny hefyd.
Ar hyn o bryd mae gan Tyfu Dyfi gyllid ar gyfer 2024 yn unig felly atebwch cyn gynted â phosib.
Cysylltwch â Chris ar