Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar y Dull Rheoli Maethynnau Uwch. Mae’r canllawiau’n rhan o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.
Mae’r Dull Rheoli Maethynnau Uwch yn gynllun blwyddyn i ganiatáu defnyddio cyfradd uwch o nitrogen o dail da byw sy'n pori.
Mae ar waith ar gyfer y flwyddyn galendr sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2024 tan 31 Rhagfyr 2024 ac mae'n caniatáu defnyddio tail da byw sy'n pori naill ai drwy ddyddodiad uniongyrchol neu drwy wasgaru dros 170 cilogram o nitrogen yr hectar i uchafswm o 250 cilogram o nitrogen yr hectar, yn unol â rhai amodau.
Rhaid i ddaliadau sy’n cymryd rhan yn y Dull Rheoli Maethynnau Uwch gyflwyno hysbysiad i Cyfoeth Naturiol Cymru erbyn 31 Mawrth 2024.
Am fwy o wybodaeth:
https://www.llyw.cymru/dull-rheoli-maethynnau-uwch-canllawiau-ar-gyfer-ffermwyr-thirfeddianwyr