Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yna daliadau cymorth ar gyfer ffermwyr organig sydd wedi’u hardystio’n llawn yn 2024.
Bydd y Taliad Cymorth Organig yn rhoi cymorth i ffermwyr organig sydd wedi'u hardystio'n llawn yn ystod y cyfnod pontio cyn gweithredu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Gwneir ceisiadau am y Taliad drwy'r Ffurflen Gais Sengl, sydd i'w chyflwyno erbyn 15 Mai 2024. Bydd y Taliad ar gael i bob ymgeisydd organig sydd wedi'i ardystio'n llawn, ac nid dim ond i'r rhai a oedd yn rhan o Gynllun Organig Glastir blaenorol.
Mae Cymorth Organig 2024 yn darparu taliad fesul hectar ar gyfer tir cymwys ac mae ar gael i gynhyrchwyr amaethyddiaeth organig presennol ledled Cymru sy'n cynnal ardystiad organig llawn yn ystod 2024.
Bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar ddefnydd tir fel y'i cyflwynwyd ar eich SAF 2024.
Cyfradd Dalu |
Disgrifiad |
Taliad |
1. |
Garddwriaeth |
£300 / ha |
2. |
Tir wedi'i amgáu |
£45 / ha |
3. |
Tir wedi’i amgáu gyda menter laeth |
£115 / ha |
4. |
Tir sydd uwchben trothwy uchaf y tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu. |
£9 / ha |
Am fwy o wybodaeth: